Tudalen:Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol y CU.pdf/6

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y mae gan bawb hawl i gymryd rhan yn llywodraeth eu gwlad, yn uniongyrchol neu drwy gynrychiolwyr wedi eu dewis yn agored. Y mae gan bawb hawl gyfartal i wasanaeth cyhoeddus yn eu gwlad. Ewyllys y bobl fydd sail awdurdod llywodraeth; mynegir yr ewyllys hon drwy etholiadau dilys o bryd i'w gilydd, drwy bleidleisio cyffredinol a chyfartal, a thrwy bleidlais ddirgel neu ddull pleidleisio rhydd tebyg.

Erthygl 22

Y mae gan bawb, fel aelod o gymdeithas, hawl i ddiogelwch cymdeithasol, i allu mwynhau hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol sy'n anhepgorol i'w hurddas ac i ddatblygiad rhydd eu personoliaeth, trwy ymdrech genedlaethol a chydweithrediad rhyngwladol ac yn unol â threfniadaeth ac adnoddau pob Gwladwriaeth.

Erthygl 23

Y mae gan bawb hawl i waith, i ddewis eu gyrfa yn rhydd, i amodau gwaith cyfiawn a boddhaol, ac i amddiffyniad rhag diweithdra. Y mae gan bawb, yn ddiwahân, hawl i dâl cyfartal am waith cyfartal. Y mae gan bawb sy'n gweithio hawl i dâl teg a boddhaol gan sicrhau iddo'u hunain ac i'w teulu fodolaeth deilwng o urddas dynol, ac ychwanegu at hynny, os bydd rhaid, drwy ffyrdd eraill o nawdd cymdeithasol. Y mae gan bawb hawl i ffurfio undebau llafur ac i ymuno â hwy i amddiffyn eu buddiannau.

Erthygl 24

Y mae gan bawb hawl i orffwys a hamdden gan gynnwys cyfyngiad rhesymol ar oriau gwaith, ac i wyliau cyfnodol gyda thâl.

Erthygl 25