RHODDI TAW AR Y GWIRIONEDD.—Clywch chi y rhain yn y fan yma pan oedd achos Iesu Grist yn startio allan gyntaf. "Mi rown ni stop ar y cwbl rhag blaen yrwan. Dim ond i ni just ysgwyd ein pennau ar y ddau siaradwr hyn—y Pedr a'r Ioan yma, fe fydd terfyn ar bob swn ynghylch enw yr Iesu yna sydd ganddyn nhw—Fel nas taener ymhlith y bobl,' &c." Pw! Pw!! Diar annwyl. Erbyn hyn, y mae'r hanes rhyfedd am Iesu Grist a'i Groes, a'r achub, a'r haeddiant, y mae wedi taenu yn bellach, bellach, o hynny hyd yn awr, o ardal i ardal, o wlad i wlad, o gyfandir i gyfandir, ac o ynysoedd i ynysoedd, ers dros ddeunaw canrif o flynyddoedd. Dymuniad calon pawb ohonoch yw, "am Iesu Grist a'i farwol glwy, boed miloedd mwy o son," ac wrth edrych dros "y bryniau tywyll niwlog," wrth edrych draw mewn ffydd yn addewidion ein Duw, ni a welwn y bydd saint ac angylion yn dyfod allan a chytganu a dywedyd, "Aeth teyrnasoedd y byd yn eiddo i'n Harglwydd ni a'i Grist Ef."
CYRRAEDD Y LAN.—"Ac yn ebrwydd yr oedd y llong wrth y tir yr oeddynt yn myned iddo" (Ioan vi. 21). "Yn ebrwydd "—ia'n ebrwydd, tra'r oeddynt mewn ryw ffit o syndod a diolchgarwch, ac yn rhyfeddu uwchben y waredigaeth. Yr oedd y llong yn mynd yn brysurach drwy'r dŵr nag oeddan nhw'n feddwl, a dyna nhw yn y porthladd ar unwaith. Fel yna y bydd hi ar y Cristion wedi iddo gyfarfod â storm fwyaf enaid. Caiff ryw olwg ar yr Iesu nes y bydd yn ei theimlo hi'n tawelu'n rhyfedd, a just pan fydd o mewn ffit o ddiolchgarwch i'w Geidwad am hynny, dyma fo yn y lan heb feddwl. Ac nid glanio