Neidio i'r cynnwys

Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/106

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dichon ein bod yn y blynyddoedd hyn yn cyfyngu'n gweinidogaeth yn ormodol i'r saint, gan esgeuluso annuwiolion ein cynulleidfaoedd, fel, yn wir, y byddai'n briodol i'r rhai hyn ofyn i aml un ohonom, fel pregethwyr, "ai difater gennyt ein colli ni?"

"Efe a roddodd i ni Weinidogaeth y cymod." Ai heddychlawn dy ddyfodiad?" meddai henuriaid dinas Bethlehem wrth Samiwel, wedi iddo ddyfod yno yn sydyn heb ei ddisgwyl. Gofynnent yn gyffrous, "Ai heddychlawn dy ddyfodiad?" Gâd wybod hynny cyn dim byd. "Ie, heddychlawn," meddai yntau, reit heddychlawn.

"Gwae fydd i mi oni phregethaf yr Efengyl." Rhaid mynd ar ambell gomiti hwyrach, ac i gyfarfod llenyddol weithiau. Eithaf peth fydd darlithio, a barddoni, ond i chi fod yn reit siwr eich bod yn medru, ond " gwae fydd i mi," &c. Fel pregethwr y byddai'n gorfod sefyll yn nydd y farn.

II. Rhaid defnyddio'n gydwybodol iawn y moddion mwyaf effeithiol i gyrraedd yr amcan pwysig.

(1) Sut i bregethu? Yn un peth, ei gwneud yn arferiad i fyned oddi wrth Dduw at y bobl—o'r weddi ddirgel i'r pulpud. "Paham," meddai rhyw wyr o Effraim wrth Gideon, pan oedd Gideon wedi bod mewn brwydr galed iawn â'r Midianiaid, ac wedi eu gorchfygu, paham," medda nhw wrtho mewn tempar go uchel," Paham y gwnaethost fel hyn â ni, heb alw arnom ni pan aethost i fyny yn erbyn y Midianiaid?" Gofalwch, fy mrodyr, am beidio a rhoddi achos i'n Duw da ofyn i'r un ohonom un amser, "Paham y gwnaethost fel