Neidio i'r cynnwys

Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/107

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hyn â mi heb alw arnaf fi pan aethost i geisio preswadio dynion i ddychwelyd ata i am drugaredd a maddeuant." Wedi myned i'r pulpud, eto, cyfeirio saeth weddi daer at Dduw am faddeuant. O, y mae maddeuant newydd yn rhywbeth blasus. Meddai Williams,-

"Aed fy ngweddi trwy'r cymylau,
A'm hochneidiau trwm diri,
Nes im gael maddeuant newydd,
A chael gweld dy wyneb di."

Yna meddwl am y modd mwyaf effeithiol i siarad â dynion yn y bregeth. "Felly yr ydym yn llefaru,' medd yr Apostol. Pa fodd i lefaru yn fwyaf effeithiol at gyrraedd amcan pwysig y Weinidogaeth?

(a) Llefaru yn hollol naturiol, heb geisio bod yn debyg i arall ond i ni ein hunain yn syml, a phell iawn fyddoch oddiwrth fod yn wagogoneddgar a rhodresgar.

(b) Llefaru yn hyglyw a dealladwy, fel y byddo pobl nid yn unig yn clywed, ond yn deall, rhag bod neb o'n gwrandawyr yn dweud wrth neb ohonom, "Nis gwyddom ni beth yr wyt yn ei ddywedyd."

Peidiwch a gadael i gwmwl, a hwnnw heb fod yn gwmwl golau iawn, ein cymryd allan o olwg y bobl, a ninnau yn siarad o'r cwmwl rywbeth na ŵyr neb beth fyddwn yn ei ddweud.

(c) Llefaru yn hyf-hyfder sanctaidd, gostyngedig, ac addfwyn. "Yn hyf yn ein Duw," fel y dywedir yn un o'r Epistolau. "Ni a fuom hyf yn ein