Duw i lefaru wrthych chwi, efengyl Duw." "Gair oddiwrth Dduw," meddai un o'r Barnwyr wrth Eglon, brenin Moab, "Gair oddiwrth Dduw" sydd gennyf fi atat ti. Peth gwerthfawr yw teimlo fel yna wrth bregethu i bechaduriaid.
(d) Llefaru llawer iawn â'r geiriau a ddysgir gan yr Ysbryd Glân; rhyw gydwau'r Ysgrythur Sanctaidd â'n pregethau. Cwynir bod llawer llai o hyn nag a fyddai. Na fydded chwilota'r Beibl, troi dalennau, ac ymbalfalu am yr adnodau i'w dweud. Rhoddwn yr adnodau a ddefnyddir gennym yn snug yn y cof fel y medran eu dweud (nid eu darllen yn eu clyw) wrth y bobl a'u hail ddweud os bydd eisio..
(2) Beth sydd i'w bregethu fel moddion effeithiol?
Fy mrodyr ieuanc annwyl, ar ddechrau eich gyrfa penderfynwch lynu'n ddiysgog wrth air gwirionedd yr Efengyl. Mae hi'n amseroedd enbyd iawn. pan mae dynion yn codi i lefaru pethau gwyrdraws. Daliwch i bregethu Efengyl Crist yn ei symlrwydd. —yr hen athrawiaethau sylfaenol a chryfion a bregethwyd gan y tadau—y dynion grymus a fu'n ysgwyd trigolion ein gwlad o ben bwy gilydd. O'n cymharu â hwy, yr ydym yn ein teimlo ein hunain fel ceiliogod rhedyn. Clywir bod rhai yn dywedyd na fuasai gweinidogaeth yr hen bregethwyr enwog yn ffitio ein dyddiau ni. Wel, beth sydd i'w ddywedyd am hyn? Dywedai'r Apostol Paul wrth y Corinthiaid, "Yr ydych yn goddef ffyliaid yn llawen, gan fod eich hunain yn synhwyrol." Ond yn wirionedd i, y mae'n anodd bod yn ddigon synhwyrol i oddef y fath ffyliaid â hyn, os ydynt yn bod.