Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/109

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ond fe ddywed rhywun, hwyrach, fod chwaeth yr oes wedi newid—yr oes olau hon," ac na fu yr un oes o fath hon. Dydi o wahaniaeth yn y byd fod rhai ym mhob oes wedi bod yn son am eu hoes hwy fel yr oes olau." Camgymeryd yr oeddynt. hwy; ond am yr oes hon, dyma un ar ei phen ei hun—y mae'n rhaid ceisio dyfeisio efengyl arall a diwinyddiaeth newydd. Rhaid newid popeth at chwaeth yr oes olau hon." hyd yn oed ordinhadau a gweinidogaeth yr Efengyl. Tybed, tybed? Na, y peth sydd eisiau ydyw'r nerthoedd grymus i newid tipyn ar chwaeth yr oes hon. Sonia Iago am "chwant yr Ysbryd a gartrefa mewn pobl." Onid at bleser, difyrrwch, chwarae, y mae chwant yr Ysbryd sydd mewn dynion? Ffordd yna y mae chwaeth yr oes yn mynd. O, am nerthoedd y Tragwyddol Ysbryd i newid chwaeth yr oes.

Mi wn i, a gwyddoch chwithau gystal a minnau, am un pregethwr mawr, y mwyaf er amser esgyniad Crist i'r Nef, nad oedd am shapio dim ar ei Weinidogaeth at chwaeth yr oes. "Nyni," meddai, 'ydym yn pregethu Crist wedi ei groeshoelio." Wel, tydi peth fel yna ddim at chwaeth yr oes, Paul. Wna fo mo'r tro o gwbl. "Y mae i'r Iddewon yn dramgwydd, ac i'r Groegwyr yn ffolineb.' 'Does neb yn lecio dy athrawiaeth di. "Lecio neu beidio, dyna ga nhw gen i," medda'r Apostol—"Nyni ydym yn pregethu Crist wedi ei groeshoelio." A dacw un arall anhraethol fwy na'r Apostol Paul—yr Arglwydd o'r .Nef, Crist Iesu yr Arglwydd. Wel, dacw filoedd o'i wrandawyr yn troi cefn arno gyda'i gilydd gan ddywedyd, "Caled yw yr ymadrodd, pwy a ddichon wrando arno?" a ffwrdd â nhw