Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/11

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

David Williams y Piwritan

RHAN I.

I'R BRYNIAU.

Medr pawb bellach, yn Gymry a Saeson, eu ffordd yn hawdd i wlad Llŷn. Dyma'r wlad a ystyrrid gynt yn ddiarffordd ac anhygyrch. a sonnid am bwynt eithaf y Penrhyn fel ' pen draw'r byd.'

Ond fe ddaeth goruchwyliaeth newydd gyda'i ffyrdd concrit a'i phetrol-fenni buain. Y mae gwibiaid haf wedi ' darganfod '—ie, ' darganfod ' os gwelwch yn dda—y wlad y tu hwnt i'r Eifl a Phwllheli. Gwelant hwythau bellach hyfrydwch ei broydd, rhamant ei golygfeydd, a swynion ei glennydd.

Ond yr anffawd ydyw nad oes yn y llyfr cyfarwyddyd neu'r hyfforddwr sydd yn llaw'r gwibiaid gymaint a chyffyrddiad o hanes gwlad, cartrefi ei chewri, cysegrleoedd ei bywyd, a'i chyfraniad i fywyd y byd. Ni ddywed wrthym pa fath foneddigion a fu'n byw dan do yr hen blasau urddasol, na pheth ydyw crefft a chelfyddyd preswylwyr y bwthynnod tlysion, nac ychwaith beth a fu hanes y werin a fu byw, o genhedlaeth i genhedlaeth, ynghanol y golygfeydd ysblennydd hyn.