mae eisiau tipyn o fanners nefol i fod yn frenhinoedd. "A'n gwnaeth ni yn frenhinoedd ac yn offeiriaid."
Wel un gair eto. Yr wyf yn gwybod ei bod hi yn hen bryd i mi derfynu, ond gadewch i mi gael rhyw bum munud—neu chwech—neu saith. "Minnau a'i haddefaf yntau." "Rhoddaf iddo eistedd gyda mi ar fy ngorseddfainc." Dyna i chwi gyffesu nid rhyw orseddfainc fach yn ymyl fy ngorseddfainc fawr. Pa le? "Gyda mi." Fel pe buasai yn dweud, "mi fyddaf yn fwy cyffyrddus ar fy ngorsedd ond cael y rhain yno." "Yn y deyrngadair yn unig y byddaf yn fwy na thydi," meddai Pharaoh wrth Joseff. "Chei di ddim rhan o'm gorsedd i chwaith, Joseff." Ond glywch chwi eich Brenin yn dweud am bob un sydd wedi bod yn ei ddilyn, "eistedd gyda mi ar fy ngorseddfainc." "Wrth bwy o'r angylion y dywedodd ef un amser, Eistedd ar fy neheulaw?" Wrth yr un erioed, fuasa fo ddim yn beth cyffyrddus i'r nefoedd weled angel ar yr orsedd. Fe fuasai yn beth poenus i'r nef, ac fe fuasai'n fwy poenus i'r angel ei hun nag i neb arall. Wn i ddim pe buasai archangel yn mynd ar yr orsedd na buasai penys— gafnder yn dod drosto. Hen bechadur wedi ei achub —" rhoddaf iddo ef eistedd gyda mi ar fy ngorseddfainc." Yno y mae ein hen gyfeillion ni, ond mae yn chwith i ni am danynt. Ymha le y maent hwy? Rhaid i chwi ddringo i ddeheulaw gorseddfainc y mawredd, neu welwch chwi byth monyn nhw. Yno y mae ein hen gyfeillion, yn reit snug 'rwan. Hwy fuont yn ffyddlawn i gyffesu yr Iesu. Yr wyf yn eu cofio. Mi gwelais hwy yn troedio'r strydoedd yma, wythnos ar ol wythnos, yn ddigon prysur yng