Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/122

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

arweddiad ydyw bwrw yr halen i ffynhonnell y dyfroedd. Y mae'n bosibl, heb hyn, newid cwrs y ffrwd o'r naill sianel i'r llall, ei stopio i redeg y ffordd yma, atal rhyw bechodau gwarthus; ond fe fyn redeg ryw ffordd arall, a hwyrach cyn hir dorri dros yr argae i redeg yn yr un ffordd eilwaith. Heb inni gadw'r galon fe fydd pob cadw arall yn aflwyddiannus.

(b) Y mae'n bwysig hefyd oblegid mai anghymeradwy gyda Duw ydyw pob cadw arall. Meddyliwch am funud, y mae meddylfryd mwyaf cuddiedig y galon yn hysbys iddo Ef. Duw, adnabyddwr calonnau pawb, ydyw Ef. "Mi a wn," meddai'r Arglwydd wrth dŷ Israel (Esec. xi. 5), "mi a wn y pethau sydd yn dyfod i'ch meddwl chi bob un o honynt," Diar annwyl, y Duw anfeidrol sanctaidd yn gwybod y pethau sy'n dyfod i dy feddwl. Beth? wel, "oni chwilia Duw hyn allan, canys efe a ŵyr ddirgeloedd y galon. Ger ei fron Ef gallwn ddywed- yd "gosodaist ein hanwiredd ger dy fron, a'n dirgel bechodau yng ngoleuni dy wyneb." "Canys," medda rhyw air yn y Beibl yma, "canys yr Arglwydd sydd yn chwilio'r holl galonnau, ac yn deall pob dych. ymyg meddyliau" (1 Cron. xxviii. 9).

Heblaw hynny, y mae'r meddyliau llygredig yn bechodau mor wrthun yn ei olwg Ef a'r gweithredoedd mwyaf cyhoeddus. Ni bydd gweithredoedd allanol, sydd yn dda ynddynt eu hunain, yn gymeradwy ger ei fron oni bydd y galon yn uniawn. "Nid fel yr edrych dyn," meddai'r Arglwydd wrth Samiwel, pan anfonwyd o i Fethlehem i ddewis' un o feibion Jesse i'w eneinio i fod yn frenin ar Israel, "Nac edrych ar ei wynepryd ef," pan oedd Samiwel yn edrych ar Eliab, un o feibion mwyaf golygus Jesse, ac