Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/121

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ech gadwedig." Dyma'r gorchymyn cyntaf, a'r gorchymyn mawr. "Pa hyd y lletyi o'th fewn goeg amcanion"—neu ofer feddyliau. Pa hyd? Dyma i chwi eiriau yr Arglwydd Iesu eto ar hyn: "O'r galon y mae meddyliau drwg yn dyfod allan"—a dyfod allan a fynnant. Ofer fydd yr ymdrech i gadw meddyliau drwg i mewn oni wneir ymdrech hefyd i'w mar— weiddio oddi mewn. Fe sonnir yn y Llyfr hwn am "ffynnon wedi ei chymysgu â gofer budr," a meddai'r Gwaredwr: "yr holl ddrwg bethau hyn" wedi iddo enwi rhyw restr ddu iawn o bechodau, "yr holl ddrwg bethau hyn sydd yn dyfod oddi mewn allan o'r galon."

"Efe a aeth i ffynhonnell y dyfroedd," meddai'r hanes am Eliseus, wedi iddo ddod i Jericho rywbryd, a gwyr y ddinas yn cwyno wrtho ynghylch y dwfr. "Wele atolwg," medda nhw, "ansawdd y ddinas, da ydyw fel y mae fy arglwydd yn gweled. Y mae yma bob peth yn ddigon dymunol yn y dref yma, ond 'does dim posib yfed y dwfr sydd gennym, dim posib, wir. Ond y dyfroedd sydd ddrwg," medda nhw. "Dygwch i mi phiol newydd," meddai'r proffwyd, "Dowch a phiol newydd i mi, a dodwch ynddi halen," ac y maent hwythau yn gwneud hynny. "Ac efe a aeth at ffynhonnell y dyfroedd," glywch chi," efe a aeth at ffynhonnell y dyfroedd." Nid trotian o seston i seston, a thrin y pipes, a threio rhyw ffiltro dipyn ar y dwfr yn y ffrydiau. Na, na, na, ddeuthai o byth i ben â hi felly. "Efe a aeth i ffynhonnell y dyfroedd, ac a fwriodd yr halen yno, ac felly," glywch chi, "ac felly yr iachawyd y dyfroedd." Yr ydych yn gweld yr addysg: "cadw dy galon yn dra diesgeulus." Y ffordd lwyddiannus i iachau'r dyfroedd yn y ffrydia, sef y fuchedd a'r ym-