all dyn gael shopkeeper i gadw'i shop, a housekeeper i gadw'i dŷ, a book—keeper i gadw'i lyfrau, ond all neb gael yr un heartkeeper ar y ddaear i gadw'i galon.
A 'does dim cymorth o'r tu allan i ni ein hunain i'w gael at y cadw yma—cymorth dynol ydwi'n feddwl, 'does dim help dynol, daearol, o'r tu allan. Y mae rhyw fath o gadwraeth o'r tu allan ar fuchedd dyn a'i ymarweddiad allanol gan amgylchiadau, a chan ddynion eraill y cylch cymdeithas y mae dyn yn troi ynddo, a rhyw ddylanwad a math o orfodaeth arno i ymddwyn fel hyn neu wneud fel arall. Y mae ofn dyn, a pharch cymdeithas yn dylanwadu ar hunangariad dyn. Y mae ofn dyn yn dwyn magl," medda rhyw air. Wel, fel y mae ofn dyn yn dwyn magl ar lwybrau rhinwedd a chrefydd, felly hefyd, yn fynych iawn, y mae ofn dyn yn maglu a rhwystro llawer ar bobl ar lwybrau pechod yn gyhoeddus. "Ond yn guddiedig," medda'r hanes am Joseff o Arimathea. Yr oedd yntau yn ddisgybl i'r Iesu, ond "yn guddiedig rhag ofn yr Iddewon." Felly, ar y llaw arall, y mae llawer dyn yn ddisgybl ffyddlon i'r diafol, ym meddiant Satan, yn was i bechod, ond yn guddiedig, er hynny, rhag ofn ryw Iddewon, sef y gymdeithas y mae'n troi ynddi ac am gael ei barchu ganddi. Y mae ofn y bobl a cheisio gogoniant dynion. yn gosod rhyw fath o gadwraeth ar ddyn o ran ei fuchedd allanol. Y mae o'n cael ei orfodi rhywsut i actio yn well nag o'i hun mewn gwirionedd. Ond y mae fel arall gyda golwg ar feddylfryd y galon. Dyma eiddo'r dyn ei hunan yn cael eu cuddio o olwg pawb dan rhyw gyfar trwchus na all yr ymyrrwr mwyaf busnesgar na'r enllibiwr mwyaf maleisus yn y wlad ddim gweld trwyddo. Y mae rhyw wahanlen