Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/126

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dywyll yn cysgodi'r galon fel na eill neb, ia'r dyn sydd yn siwr o wybod gyntaf bob drwg am bawb, na eill hwnnw ddim cymaint à symud cwr y wahan— len hon unwaith mewn blwyddyn i wybod beth sydd yn mynd ymlaen yn y galon.

II. Y MODD I GARIO ALLAN Y GADWRAETH.

Y mae o'n gadw pwysig iawn, ond O, y mae o'n anodd. Pa fodd y mae cadw'r galon, yn dra diesgeulus?

(a) Wel, yn un peth ei gwneud yn arferiad cyson i droi i mewn, megis, yn fynych i edrych beth sydd yn mynd ymlaen yn y galon. Gweled beth y mae'r galon yn ei wneud ar y pryd. Y mae llawer dyn yn gwybod yn well sut y mae pethau yn mynd ymlaen yn yr Aifft, ac Affganistan, a gwledydd pell, nag am yr hyn sydd yn mynd ymlaen yn ei galon ei hun. Y mae'n rhaid troi llygad yr enaid i mewn yn fynych. Mor annrhefnus y mae hi'n mynd yn yr ysgol, lle mae lliaws o blant direidus, pan fo'r meistr wedi troi'i gefn am beth amser. Y fath swn a rhedeg a gweiddi, dim cymaint ag un yn ei le a chyda'i wers. Ond y funud y mae'r meistr i mewn yn ôl, y fath osteg rhyfeddol o sydyn a distawrwydd—pawb i'w le am y cynta' ac at ei wers.

Wel, fel yna y mae meddyliau'r galon yma yn mynd yn afreolus a dilywodraeth pan na fyddo'r enaid yn rhyw warchod gartref. Pan mae'r gydwybod yn bresennol, megis, yn effro ac yn gwylio mor wahanol ydyw popeth yma!

(b) Peth arall gwrthod ofer feddyliau yn gystal a drwg feddyliau. Dyma un o benderfyniadau da