Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/132

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhyw air am y dyn yr aethai'r ysbryd aflan allan ohono, ond mor fuan y mae o'n dyfod yn ol. "Mi a ddychwelaf i'm tŷ o'r hwn y deuthum allan, ac y mae yn ei gael yn wag wedi ei ysgubo a'i drwsio, ond yn wag, yn wag, ac ar unwaith dyma'r ysbryd aflan yn ôl, a saith eraill gwaeth nag ef ei hun gydag ef.

O gyfeillion, ofer fydd pob ymdrwsio a threfnu os bydd y galon yn wag. Os cedwir hwy allan, dyna fydd yn rhaid fod yn rheswm: "Am nad oedd iddynt le yn y llety "-holl ystafelloedd y galon yn llawn o feddyliau daionus. Y mae yna ddigon o le i'n meddyliau dramwy dros hyd a lled, uchter a dyfnder cariad Crist.

Ymnerthwn yn yr Arglwydd ac yng nghadernid ei allu Ef. "A minnau," meddai Dafydd, rywbryd, "a minnau ydwyf eiddil heddyw, a'r gwyr hyn, meibion, Serfiah, sydd ry galed i mi." O dyna brofiad aml un sydd yma yn wyneb y gwaith mawr hwn, sef cadw'r galon, "a minnau ydwyf eiddil heddyw," a'r meddyliau ofer a llygredig hyn sy' ry galed i mi. Beth wnawn ni? Gwyliwn, gweddiwn, ac ymnerthwn yn yr Hwn a fedr wneud ein calon yn amddiffynfa; a than ddylanwad daionus ei Ysbryd Ef fe ddaw "y pethau sydd wir, y pethau sydd onest, y pethau sydd gyfiawn, y pethau sydd bur, y pethau sydd hawddgar, y pethau sydd ganmoladwy," i growdio allan y drwg bethau.





ARGRAFFWYD YN SWYDDFA ARGRAFFU'R CYFUNDEB, CAERNARFON.