Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/131

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a ddaeth yr hen farchnadwyr yno wedyn ai do? Do, mi ddeuthon yno; ond y maent yn methu a dyfod i mewn cael y dorau wedi'u cau i fyny yn reit sownd. Ac wedi methu a dyfod i mewn fel yna y mae nhw'n blino dyfod yno i dreio toc iawn. Unwaith neu ddwy y deuthon' nhw, medd yr hanes. "Felly," glywch chi, "felly y marchnadwyr a gwerthwyr pob peth gwerthadwy a letyasant o'r tu allan i Jeriwsalem" unwaith neu ddwy wedi gweld nad oedd modd dyfod i mewn. Y mae nhw'n blino dyfod yno i dreio. "O'r pryd hwnnw," medda'r hanes, "o'r pryd hwnnw ni ddeuthant ar y Sabath mwyach."

Gwnawn ninnau fel yna efo'r drwg feddyliau a'r ofer a'r gwag feddyliau yma o bob math, y marchnadwyr hyn sydd am wneud y galon-a ddylai fod yn deml i'r Ysbryd Glân-yn dy marchnad i Satan a phechod. Ceuwn y dorau, gyfeillion, oblegid ofer fydd dwrdio'r hen feddyliau drwg yma. "Pa beth drygionus yw hyn yr ydych yn ei wneuthur" aflonyddu a therfysgu fy nghalon?" Medr yr hen feddyliau aflywodraethus yma oddef cael eu dwrdio, ac mi ddôn wedyn, a wedyn, tra caffont ddrws agored. Archwn gau y drws yn eu herbyn hwy. Rhaid gwrthwynebu'n gryf a phenderfynol eu cynygion cyntaf.

(e) Un peth arall tuagat gadw'r galon rhag yr hyn sy' ddrwg ydyw gwneud ymdrech i'w llanw yn wastad â'r hyn sydd dda. 'Does dim modd gwylio'r pyrth yn ddigon gofalus, na chau y drws yn ddigon clos na ddaw y rhain i mewn os bydd lle iddynt. Meddyliau! Meddyliau!! Diar annwyl, fe ymwthiant i mewn yn rhyfedda 'rioed na wyddoch chi pa sut os bydd y galon yn wag. Er eu hymlid allan dônt yn ôl drachefn. "Y mae yn ei gael yn wag," medda