Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/130

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ynau y mae nhw yn eu pentyrru arno fo druan cyn iddo fo gael treio ateb yr un ohonyn' nhw. "Beth yw dy gelfyddyd di?" "O ba le y deuthost?" "Pa le yw dy wlad, ac o ba bobl wyt ti?" Yr oedd o dros y bwrdd yn ddigon clir â'r llong ymhen ychydig iawn o funudau. Y mae yn dda gwneud fel yna pan mae tymestl nid bychan yn curo ar yr enaid a chydwybod euog yn terfysgu. Beth? Wel, edrych beth yw yr achos. A oes peidio a bod rhyw anwiredd cuddiedig i waered yn ystlysau'r llong. Rhaid llusgo rhyw chwant pechadurus i'r dec, megis, a'i gwestiyno, Beth ydi dy gelfyddyd di? Beth yw dy grefft ti? O ba le y deuthost ti dywed? Pa le yw dy wlad, ac o ba bobl wyt ti? Pwy yw dy dylwyth di? a ffling iddo, a thros y bwrdd ag o, ar unwaith. Y mae hynyna yn dda; ond gwell o lawer, a haws ei wneud, ydyw cadw'r drws. Os daw y drwg feddyliau i mewn unwaith fydd hi ddim mor hawdd eu taflu allan ag oedd i'r morwyr fwrw Jona allan o'r llong.

Wrth wylio'r galon a'i chadw yn dra diesgeulus chwi gewch fwy o lonydd bob yn dipyn, gewch chi weld. "O'r pryd hwnnw," medda'r hanes yn llyfr Nehemia am ryw farchnadwyr oedd yn dyfod i Jeriwsalem i werthu pethau ar y Sabath. Yr oeddynt yn poeni calon Nehemia ac yr oedd yn methu'n lân a'u stopio nhw. Y mae yn i dwrdio nhw, a mi fedra Nehemia ddwrdio gystal â neb. "Pa beth drygionus. ydyw hwn yr ydych yn ei wneuthur, gan halogi y dydd Sabath;" ond 'doedd dim iws, yr oeddynt yno y Sabath wedyn. Beth wnaeth o i gael gwared o honyn nhw? Cau y dorau, "a phan dywyllasai pyrth Jeriwsalem cyn y Sabath yr erchais gau y dorau, ac a orchymynais nad agorid hwy hyd wedi y Sabath, a mi a osodais rai o'm gweision wrth y pyrth." Wel,