Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei hynafiaethau'n ddihysbydd. Brithwyd ei hanes, fel y sylwyd, ag enwau urddasolion a garai eu gwlad, gan goledd ei llenyddiaeth a'i chelfyddyd. Bu'n gartref i feirdd a llenorion hyglod, megis William Llŷn, Lewis Daron, Owain Llŷn, Ioan o Lŷn, Gwilym Llŷn. Daeth oddiyma hefyd Syr William Jones, y cyfreithiwr; a Thimothy Richards, y morwr, ac eraill.

Fe gynhyrchodd hon bump o esgobion, a chyda hwy fagad o uchelwyr eglwysig eraill llai eu gradd. Cerddodd ar ei ffyrdd efengylwyr ffyddlon ac aml broffwyd enwog fel Richard Dafydd, Morgan Griffith, Evan Hughes, James Hughes, John Jones (Edern), a Robert Jones (Rhoslan).

"Cerddwyd ar ei ffyrdd," meddwn, oblegid Dyddiau'r gwyr traed a'r teithio blin ar ffyrdd llychlyd oedd y rheini i gorff y bobl.

Pennod ddiddorol a fuasai hanes arloeswyr trafnidiaeth yn Llŷn, a chael tipyn o fywgraffiad y drol mul, y frêc, ac, yn bennaf oll, y goitsh fawr o felys goffadwriaeth. Dyweder a fynner, goruchwyliaeth go nobl oedd honno. A wyt ti'n cofio, ddarllenydd, fel y cyrchem am y goitsh ar Stryd Fawr y dre, am y pedwariaid o feirch dof eu golwg, a'r dreifar yn diwyd osod yn eu lle'r parseli a ymddiriedid i'w ofal ? Diddorol fyddai gweld y teithwyr, yn wladwyr graenus a rhadlon, yn dygyfor, a'r ymholi am hwn ac arall a fyddai'n methu mewn prydlondeb.

Syndod oedd gweled cynifer o gyrff llydan yn myned i gyn lleied o le, ond nid oedd gadael neb ar ol yn unol ag urddas a thraddodiadau'r goitsh—rhaid oedd " gwneud lle i bawb." Amrywiol fyddai'r llwyth, oblegid ceid yno'r faelwraig, y ffermwr, y morwr, a hwyrach efengylydd neu ddau. Amrywiol