Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hefyd fyddai testunau'r ymddiddan, a cheid digon o amser i drafod helyntion teuluoedd, eglwysi, a llongau, a byddai pawb mewn tymer dda yn bwrw'i gyfran i'r bwrdd cyfnewid.

Yng nghwrs y datblygiad fe ddaeth cerbyd ar ol cerbyd ar y ffyrdd, ac y mae'r olaf o rywogaeth y goitsh wedi peidio a rhedeg. Diddorol oedd edrych y dydd o'r blaen ar gorpws un o'r hen foneddigesau hyn, a fu hithau'n ddefnyddiol iawn yn ei hamser, yn prysur adfeilio yn un o ierdydd Llŷn.