Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

restru, ac fel hyn y bu: Tua'r blynyddoedd 1882 a 1883 yr oedd gweinidogaeth yr efengylydd mawr, Richard Owen, y diwygiwr, yn aredig yn ddwfn ardaloedd Llŷn. Nid oedd fawr son am ddim arall yn y dyddiau hynny, ac fe ddylifai'r bobloedd o fan i fan i wrando'r proffwyd rhyfedd hwnnw. Aeth Owen Williams yntau gyda'r lliaws i wrando arno fwy nag unwaith i gapel Edern. Fe fu i'r bregeth ar y 0 Llafurwyr yn y Winllan " lorio hyd yn oed Owen Williams—gŵr a fedrodd wrthsefyll, megis derwen gref, ruthr '59, a llawer dylanwad grymus wedi hynny. Fe ddug y llorio hwnnw ryw don ryfedd o lawenydd i galon pobl Y Dinas, oblegid yr oedd yn ŵr cyfrifol a charedig i'r achos ymhob peth a allai. Noson go ryfedd oedd honno pan ddaeth Owen Williams at y praidd yn Y Dinas. " Wel, Owen, mi ddaethoch chitha aton ni o'r diwedd," meddai John Moses Jones. "Wel, do, mi ddois," atebai Owen Williams, gan sychu'r ffrwd o ddagrau â chefn ei law, "Wel, do mi ddois, ond yr ydwy' i'n teimlo'i bod hi wedi mynd yn hwyr iawn arna 'i, John bach, —y mae hi wedi pasio'r unfed awr ar ddeg." "Ydi, ydi," meddai'r hen bregethwr, "ond diolch i Dduw dydi hi ddim wedi taro hanner nos arnat ti. Owen bach." Daeth teimlad i galon a dagrau i Iygad pawb y noson yr ymgasglodd y disgyblion yn Y Dinas, ac Owen Williams gyda hwynt.

Yn ol y cofnod a geir yn eglwys Tudweiliog, bedyddiwyd David, mab Owen a Mary Griffith, Bryniau, Rhagfyr 13, 1835. Gwelwn yma arfer, oedd yn lled gyffredin yn y dyddiau hynny, o gwtogi enwau. Yr enw'n llawn oedd Owen Griffith Williams.

Dafydd oedd yr hynaf o blant y Bryniau, ac, am ei fod yn henaidd ei ffordd, ni a gawn ei fod yn dra