Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

byw i bwysigrwydd ei enedigaethfraint. Gallasai'r craff weled bod ynddo ddeunydd clamp o Biwritan y pryd hwnnw. Ymhlith y plant yr oedd ei dueddiad yn gryf at awdurdodi yn dadol, ac ni phetrusai ddisgyblu'n ddiseremoni y rhai mwyaf anhydyn ohonynt. Y syniad cyffredin oedd ei fod o'n " lordio braidd ormod. Fodd bynnag, y mae'n amlwg ddigon nad oedd rheolaeth y brenin Dafydd ddim yn gorwedd yn esmwyth bob amser. I ysgol John Hughes yn Nhudweiliog yr âi'r plant o'r Bryniau, pellter o tua dwy filltir, ac un mater y methid yn lân a'i setlo i fodlonrwydd oedd: y rhan a ddylai hwn ac arall ohonynt gymryd mewn cario'r piser llaeth ar gyfer cinio. Ai'n streic gynhennus yn rhywle tua Phont-rhyd-trwodd, a mynych y byddai rheolaeth Dafydd yn deilchion.

Parhau i gynhyddu a wnaeth bagad bugeiliaeth Dafydd cyhyd ag y daliodd i fyned i'r ysgol. Fe ddaeth y plant i ddygymod yn rhyfedd a llywodraeth y teyrn, er iddi fod yn dipyn o niwsans lawer tro, a hynny am y rheswm da y medrai ef ei amddiffyn ei hun mewn cwff, a gwastrodi pawb a fyddai'n ymosod arnynt hwythau.

Yr oedd John Hughes, yr athro, yn ŵr hyfedr mewn dysgu, debygid, a cheir pob lle i gasglu, oddi wrth yr hyn a ddigwyddodd wedyn, fod ganddo syniad go uchel am allu'r bachgen Dafydd. Fodd bynnag o'r ysgol y daeth, a diau mai'r rheswm pennaf am y symud hwnnw ydoedd bod angen ei help ar y fferm. Faint elwach a fu'r fferm a'i hwsmoniaeth, ni wyddom; ond colled anadfer ydoedd i'r bachgen. Fe welwyd yn union ei fod yn fwy o fachgen llyfr nag o lafurwr, ac yn fwy o fyfyriwr nag o ddim arall.