Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Byddai teulu'r Bryniau yn wrandawyr pur gyson yng nghapel Edern.[1]

Amrywiai'r blaenoriaid yn eu maint, ac fe wisgai pob un ohonynt ei ddelw'i hun. Dyma John Hughes, Cefn Edern (tad Griffith Hughes), gwr grymus ei ddylanwad a hoyw ei gerdded; Thomas Roberts, Bryngwŷdd, yn dawel a bonheddig ei ysbryd, yn cyhoeddi "y soseiat " ac enw'r "llefarwr" y Sul nesaf; Robert Williams, yn ŵr pur ddoniol, ac, yn gyffredin yn taro tant gwahanol i Griffith Hughes,—weithiau'n siriol, dro arall yn ddifrif; William Jones, Tŷ Hen, yn dechrau porthi â "(hy)," a hwnnw'n myned yn "Amen" ddwbwl os byddai arddeliad, a dwy ffrwd loyw yn rhedeg i lawr ei ruddiau gwritgoch. Dyma eto William Hughes, efe

  1. Y mae hanes Methodistiaeth yn Edern yn un diddorol dros ben. Ymwelodd Howel Harris â'r ardal pan ddaeth gyntaf i Lŷn yn 1741. Cafodd lety gan wraig Porthdinllaen, a bu hynny'n achlysur erledigaeth erch ar y pengryniaid. Daeth Hugh Griffith y Ty Mawr (hen daid Griffith Hughes) a Thomas Humphreys, Penybryn, yn swcwr i grefydd gan ddiogelu drysau agored i bregethu. Bu i'r ddau godi adeilad heb yngan ar y pryd mai capel oedd hwnnw i fod.
    Dywedir mai'r Thomas Humphreys hwn a gyfieithodd gyntaf waith Gurnal i'r Gymraeg. Gadawodd ei dŷ a'i dyddyn i'r hen ferch, y forwyn, ac yr oedd y lle i fod yn gartref i bregethwyr, ac arysgrif uwchben y drws " Deuwch i mewn i'm ty, ac aroswch yno." Daeth yr etifeddes hon yn briod i'r gŵr hynod hwnnw, John Jones, Edern. (Gwel Methodistiaeth Cymru, ii. 142)