Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

weithian yn pregethu, ac yn gwneuthur hynny'n syml a difrifol, a'i weddiau gafaelgar yn dwyn bendith i laweroedd.

Am Griffith Hughes, yr oedd ef yn ŵr hynod ar lawer cyfrif, ac yn meddu ar bersonoliaeth a'i gwnai'n ddylanwad mawr gartref ac oddicartref. Clybuwyd ei leferydd yn llysoedd uchaf y Cyfundeb, a chafodd yn y flwyddyn 1872 eistedd yng nghadair y Gymdeithasfa. Enillodd ef radd dda fel pregethwr. Ni chyfrifid ef yn un hwyliog, ac ni fedrai ar y goslef-ganu hwnnw a geid gan rai o'i frodyr llai. Pregethai yn sylweddol, ysgrythyrol, a grymus, ac yr oedd ei feddwl cynhyrchiol yn dwyn i'r bobl ryw newydd-deb di-dor.

O ran ei fuchedd a'i gred yr oedd yn Griffith Hughes gryn lawer o'r piwritan. Meddyliai'n benderfynol a phendant, a datganai farn ddi-wyro. Ofn dyn, nis gwyddai; a derbyn wyneb neb pwy bynnag, nis goddefai. Pan ei derbyniwyd ef ac un arall i'r Cyfarfod Misol methai'i gyfaill ag ymgynnal wrth ymlwybro at y sêt fawr. Edrychai ef megis dyn ar lewygu gan ofn; ond dacw G. Hughes yn mynd rhagddo'n syth-hoyw a didaro, a rhyw hen frawd go gritig yn sisial wrth ei —gyfnesaf: "Wel, dyma un nad oes arno ofn na dyn na diawl." A gwir a ddywedodd.

Pan roes John Jones, Tremadog, orchymyn, fel Llywydd y Cyfarfod Misol, nad oedd neb i alw John Jones, Clynnog, i bregethu, ,gofynnodd Griffith Hughes: "Beth mae o wedi i wneud?" " Does dim chwaneg o siarad i fod ar i achos o," oedd yr ateb, " y mae o wedi'i setlo." "Pwy sydd wedi'i setlo fo ?" gofynnai Griffith Hughes wedyn, ac ychwanegu, " dydi o ddim i gael ei setlo ar hyn, beth