Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bynnag. Chwi, y blaenoriaid, sydd a chyhoeddiadau John Jones, Clynnog, gennych am y mis nesaf. cyhoeddwch o, ac aed yntau i'w gyhoeddiadau. Mae geni gystal hawl i ddweud fel yna ag sydd gynoch chitha i ddweud fel arall." Diwedd yr ysgarmes hi dewis nifer i chwilio i achos y cŵyn, a chael John Jones yn lân a dieuog.[1]

Fe ddaeth llymder y Piwritan yn amlwg yn Griffith Hughes, ac yn bur fynych fe fyddai'i geryddon yn finiog, a'i ergydion yn dra thrymion, ac nid oedd dim a rwystrai eu harllwys pan fyddai galw.

Ni welai na synnwyr na chrefydd mewn defnyddio pibell a baco, ac yr oedd ei wrthwynebiad i fyg yn ddi-gêl, pwy bynnag a geid yn sugno'i gysur yn y ffordd honno. Lletyai ef a'r (Dr.) John Hughes, Lerpwl, gyda'i gilydd ym Mhwllheli adeg Sasiwn. Wedi cinio, aed i'r ardd y tu cefn i'r tŷ. Yn y munud, dyma wraig y tŷ yn gosod gerbron John Hughes fwrdd taclus, ac arno'r celfi angenrheidiol a darpariaeth gyflawn at fygu. A'r mwg erbyn hyn yn torchi i fyny o gwmpas pen y Doctor daeth Griffith Hughes heibio. "Wel dyma hi," meddai, yn goeglyd braidd. "le," meddai'r llall, a'r pefriad hwnnw yn ei lygad, "wyddoch chi be' ddaeth i fy meddwl wrth ych gweld chi'n dwad?" "Wel, beth?" gofynnai Griffith Hughes yn o sych. "Y gair hwnnw: 'Ti a arlwyi ford ger fy mron yngwydd fy ngwrthwynebwyr.' "

Yr oedd Griffith Hughes yn llym yn ei sêl dros yr hyn oedd, i'w fryd ef, yn iawn. Yn hyn yr oedd

ei wendid yn gystal a'i gryfder. Edward Morgan y

  1. Y Parch. J. Hughes