Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dyma a ddywedir yng Nghofnodion Cyfarfod Misol Pwllheli, Ionawr 2, 1860: "Dymuna Edern gael brodyr yno i edrych a barnu a oedd y gŵr ieuanc a oedd yno yn chwennych gwaith y weinidogaeth yn meddu'r grasau a'r doniau hynny sydd yn angenrheidiol i'w meddu er rhoddi hawl i'r swydd. I fyned yno er cynorthwyo'r eglwys i hyn penodwyd y Parch. Robert Hughes, Uwchlawrffynnon; Evan Williams, y Morfa, a'r Ysgrifennydd." Ac yn Ionawr 1860 y mae'n cyflwyno'i genadwri gyntaf of bulpud Edern oddiar y geiriau hynny, "Yr hwn sydd yn credu ynddo Ef ni ddemnir" (Io. iii. 18).

Trwy ryw fath o "gyfiawnhau trwy ffydd" yr â llawer bachgen ieuanc, yn ei ddeunydd anaeddfed, i'r Weinidogaeth; ond yr oedd derbyn David Williams yn rhywbeth tra gwahanol. Nid llefnyn yn dechrau siarad yn gyhoeddus mohono, ond llanc pedair ar hugain oed, a chanddo ddawn brofedig. Edrychai'n ddyn ieuanc cydnerth a golygus ddigon, a chanddo lais cyfoethog dros ben. Gwyddai'i Feibl o glawr i glawr, ac yr oedd ei enghreifftiau a'i adnodau yn hylaw at bob galw. Heblaw hyn oll, yr oedd ynddo ryw aeddfedrwydd syml a oedd wrth fodd y saint, a dygai allan o'i drysorau ei hun "bethau newydd a hen." Daeth i'r golwg yn ei anterth; prysurodd ei haul i fyny; a daeth galwadau didor am dano o bell ac agos.

Ar Chwefror 7, 1860, yr oedd Cyfarfod Misol yn y Nant. "Cafodd y cenhadon hynny a anfonwyd i'r diben o ymddiddan a'r gŵr ieuanc, David Williams, yr hwn yr oedd yr eglwys yn ei alw i bregethu, ei fod yn meddu gradd o wybodaeth ynghydag arwyddion ei fod wedi ei alw i fod yn sanct. Myn- egwyd hynny i'r Cyfarfod Misol, a chaniatawyd