Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ganddo i David Williams gael rhyddid i bregethu o fewn cylch penodol, sef Llŷn, am ddwy flynedd, ac os enilla gymeradwyaeth yn ystod yr amser cry- bwylledig derbynnir ef i fod yn aelod o'r Cyfarfod Misol."

Yn wyneb y fath gychwyn disglair, fe ddaeth Griffith Hughes ac eraill o'i gwmpas i deimlo mai gorau po gyntaf oedd i'r llanc gymryd y cyfle i loywi'i arfau. Fel hyn yr â Cofnod Cyfarfod Misol y Nant ymlaen: "Y mae'r rhagddywededig yn dangos awyddfryd cryf am fyned i'r athrofa i'r Bala; ond nid oedd ganddynt i'w wneud ond ei gyflwyno i'r rhai sydd wedi eu hawdurdodi i brofi ymgeiswyr, ac y mae ef i sefyll neu syrthio yn ol eu barn hwy, sef cael caniatad neu wrthodiad."

Sut bynnag y bu hynny, fe fu'r awdurdodau yn bur dirion yn wyneb yr holl anfanteision a gawsai. Trefnwyd ei hynt i'r Bala; ac yno yr aeth ym Mawrth y flwyddyn honno. Gallwn yn rhwydd ddychmygu mai rhywbeth tebyg i newid byd oedd. hwn i'r pregethwr ieuanc. Yr oedd amlder meddyliau o'i fewn pan darawodd ei lygaid gyntaf ar yr hen dref, yr un y clywsai fwy na mwy am dani—Meca'r Methodistiaid. Ie, dyma'r Bala yn llannerch fonheddig a thawel, ac yn sefyll ar ddôl yn agos i gydiad afonydd Tryweryn a Dyfrdwy. Sylwa mewn edmygedd ar ei phrif heol lydan, a'r coed cysgodol yn cadw'u lle o boptu iddi. Arweinir ef gan W. Prydderch Williams i olwg y Coleg, y Green, a'r Domen. Wedyn aed trwy'r dref i olwg Llyn Tegid anwadal ei dymer, a chyrchu hen fynwent Llanycil ar fin y llyn.

Fe ddywedir iddo dynnu sylw ato'i hun ar unwaith yn y Coleg ac ar yr heol. Edrychai'n bur