Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

phriododd wraig, ond ni fu iddo gymaint a bygwth, nac ychwaith ymwneud dim â'r moddion. Daeth unwaith ar draws un o weision Cefnleisiog, a hwnnw ar gychwyn i briodi, "Diar mi" meddai " yr ydw i'n clywad dy fod am wneud peth rhyfedd iawn heddiw—am briodi'n twyti?" "Ydw," ebr y llanc. "Pam r'wyti'n gwneud peth mor ffol, dywed"? "Wel, mi ddeuda ichi" oedd yr ateb "am fod popeth a gafodd ei achub yn arch Noa yno gyda'i gymar, ac nid oedd yno yr un hen lanc. "Twt lol," meddai D. Williams, ac i ffwrdd ag o. Fe ddywed cyfaill iddo, a oedd yntau'n ddibriod, yn ardal Y Felinheli iddo'i dynnu i drafod y mater yn lled ddifrifol unwaith. Edrychwyd ar y pwnc yn ei holl agweddau. Mesurwyd, a phwyswyd yr hyn oedd o blaid ac yn erbyn. Ni ddaeth dim o'r ymdrafod ond mwg baco, ac ni syflwyd mo'r hen lanc. "Na, wir, Mr. R—bach," meddai, "peidiwch a phriodi, da chi, neu fe fydd gwraig fel melin goffi yn ych clustiau chi ar hyd y dydd."

Yr oedd yng Nghyfarfod Misol Arfon yn y dyddiau hynny lonaid set fawr o ddynion amlwg a phrofiadol yn rheoli—a rheoli wnaent—megis, David Jones, Treborth; John Phillips; Robert Ellis; John Owen, Ty'nllwyn; Rees Jones, a Dafydd Morris— dynion eithriadol bob un ohonynt yn ei ffordd. Hwynthwy oedd yn ffarmio Methodistiaeth yn y rhan hon o'r wlad.

Ni fu i weinidog ieuanc Bethania golli ei ben am funud yn helyntion y Cyfarfod Misol, ac ni fynnai a wnelo â mân drefniadau. Nid oedd yn ddigon ffol i anwybyddu na diystyrru'r rhan hon o drefniant y Cyfundeb y perthynai iddo, ond yr oedd yn ddigon call i adnabod ei ddawn ei hun, a gwneud y gorau