wrthi?" "Wel, yn ddi-ddawn," ebr y Dr., "yn ddiddorol o ddi-ddawn, welwch chi." Ie gair hoff ganddo oedd "diddorol." Onid efe a ddywedodd am ryw frawd ei fod yn fychan, yn ddiddorol o fychan? Os gellid dweud am ddyn ei fod yn garictor byddai'i gwmni yn gryn dipyn o wledd, ac fe gai hynny, a rhagor, yng nghwmni David Williams. Aeth y ddau gyda'i gilydd i gynnal cyfarfod pregethu i rywle yn nhueddau Llannerchymedd unwaith, ac, yn ol arfer pobl yr ynys, cawsant diriondeb a charedigrwydd diball, a'r Doctor wrth ei fodd yn mwyn- hau tirionwch Môn gan ddal i ddweud yng nghlyw David Williams: "Yn tydy nhw'n garedig;" "yn toes yma le braf," etc. Aeth y cyfarfod drosodd, ond nid felly ganmoliaeth y Dr. A hwy ar eu ffordd adref, gwedi i'r tren adael stesion y Gaerwen am Lanfair: "Diar mi," meddai'r Dr., "y mae mynyddoedd Sir Gaernarfon yn edrych yn dda oddi yma, edrychwch mewn difri." "Ydyn," meddai'r llall yn bur swta, "dyna ydi'r hen Sir Fôn bach yma, welwch chi, rhyw blatform bach i weld Sir Gaernarfon, ac mae'n gwestiwn gini fasa hi yma ers talwm onibai'i bod hi wedi'i chainio ym mhont y Borth yna."
Deunaw mlynedd o weinidogaethu llwyddiannus a fu eiddo David Williams yn Lerpwl. Er taro ohono nodyn pur uchel y tro cyntaf, parhaodd i daro deuddeg hyd ddiwedd tymor ei drigias yn y ddinas fawr. Yng ngoleuni llachar meistraid y gynulleidfa nid aeth ef o'r golwg. Nid oedd neb a berchid yn fwy gan Gymry'r ddinas, a'i ddywediadau ef o bawb a arhosai ym meddyliau'r bobl.[1]
- ↑ Y Parch. W. M. Jones.