Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dymor glyb, a'r cynhaeaf wedi bod yn anniben—y ffarmwrs hyd y wlad yna wedi bod am ddyddiau yn sefyll yn syn, yn lle bod yn medi ar y meysydd. Hwyrach, wir, na fydd o'n ddrwg yn y byd i'r Brenin Mawr beri i ddynion sefyll dipyn. Bydd y gŵr bonheddig yn rhoi clo ar giat y ffordd 'na weithiau—rhyw unwaith yn y flwyddyn hwyrach—nid gan feddwl rhwystro i bobl ei hiwsio, ond just i ddangos mai fo piau hi."

Ceir ambell ddyn a'i deithi arbennig yn ei ddieithrio i bobl eraill ac yn mynd yn fur rhyngddo a chymdeithas, ond y gwir am dano ef ydyw bod ei holl hynodrwydd yn ei ffitio yn berffaith naturiol. Yr oedd yn syml, hynaws, a chyfeillgar ryfeddol yng nghylch ei gydnabod.

Yr oedd ar y telerau gorau â'i gyd-weinidogion yn y ddinas. Yr oedd i'r Dr. Owen Thomas a'r Dr. John Hughes gylch bywyd a gorwelion meddwl y tu hwnt i eiddo David Williams, bid sicr, ond y mae gennym lawn sicrwydd bod y naill a'r llall ohonynt yn gwneud cyfrif go fawr o weinidog Crosshall Street, ac fe ddywedodd y Dr. Thomas yn bendant. "na wyddai ef am yr un gweinidog yn y tymor hwnnw a wasanaethodd yn well gynulleidfaoedd Lerpwl nag y gwnaeth David Williams."

Nid rhyfedd yn y byd i'r Dr. Hughes ac yntau fod gymaint yng nghwmni ei gilydd. Onid oedd David Williams mor wreiddiol, diddorol, a naturiol? Ac fel y gwyddys dyna'r pethau y byddai'r Doctor afieithus yn eu mwynhau o bopeth. Daeth heibio i Ddavid Williams yn ei lety un noswaith (ac fe wnai hynny'n o fynych) ar ol cyfarfod yn Fitzclarence Street. "Yr oedd A.B. yn annerch acw heno," meddai, "Ho, felly," atebai'r llall, "sut yr oedd o