iaid ffyddlon yn gwmni iddo. Yr oedd David Williams yn ŵr hardd o gorff, a hoyw o gerddediad, ac edrychai mor raenus a glandeg, gyda'i wyneb difarf, â'r un offeiriad. Fel yr âi ef a'i gydymaith ar eu hymdaith trwy un o'r lleoedd y soniwyd am danynt dyma ddau neu dri o fechgynnos, a marciau'r cwterydd arnynt, yn rhedeg at y pregethwr gan ei gyfarch yn barchus ddigon: Good afternoon, father." Ond dyma lais bâs David Williams allan fel taran (ac yntau'n taflu'i law yn ddiamynedd):
"No! No!! No!!! I'm not your father, get away with you. Be stydi'r petha ma deudwch efo'u hen lol?"
Er na ellid ei gyfrif yn ymwelwr mawr, na feddylier am funud mai un yn difateru am ei bobl ydoedd. Yr oedd mewn cyffyrddiad byw a bendithiol â hwy yn eu helyntion, ac fe ddiwallodd angen llawer tlawd trwy'i elusen. Ai'r gymwynas o'i law ef ei hun, weithiau, yn uniongyrchol; dro arall, trwy law un o'r blaenoriaid yn ddistaw bach.'
Rhywbeth y tu hwnt i ddychymyg a fuasai clywed. David Williams yn y Cyfarfod Misol yn bwrw huawdledd mewn dadl fawr ar bethau bach a dibwys; ond pan ddelai gerbron fater yn cyffwrdd bywyd ysbrydol y saint—yr ysbaid honno, y gŵyr llawer cadeirydd yn dda am dani, pan fo'r mân siarad yn troi'n fudandod poenus—dyma gyfle i glywed ei lais yntau, ac yn ddi-feth fe ddywed rywbeth byw a chofiadwy. Gofynnwyd iddo un tro ddweud gair ar y dydd diolch am y cynhaeaf. Gwedi iddo alw am i'n diolch fod yn fwrlwm parod ac ewyllysgar, ac nid rhywbeth i'w "brocio," fel y byddai pobl wrthi'n taro tân â charreg ers talwm, aeth ymlaen: "Wel ia, rydach chi'n deud ei bod hi wedi bod yn