Y mae llawer o fân bethau ynglŷn â'r Achos Mawr, a man drafferthion hefyd; ond y gwir yw na fynnai ef ei boeni ganddynt o chai lonydd. Gwyddai ef yn burion fod y pethau hynny mewn dwylo diogel a gofalus, a chai yntau droi yn ei gylch priod ei hun —"pawb at y peth y bo." Mewn gair, nid yn unig fe'i cyfyngodd ei hun i'w eglwys; ond hefyd i'r gwaith mwyaf ysbrydol ynddi hithau.
Ffolineb fuasai ei wahodd i gomiti, ac, o delid ef mewn un ar ol cyfarfod arall, fe'i gwelid yn stwyrian yn aflonydd fel un a chnofeydd wedi'i ddala, a'i het yn ei law, ac yn deisyfu gweled pen ar bethau— fel y caffai fyned adref.
Ie, rhyw ddrwg anorfod oedd "comiti" ar y gorau. Daeth ar draws y gair hwnnw mewn pregeth rywdro: "Efe a orchymynnodd, a hynny a safodd." "Ia," meddai, "fel yna—ddaeth o ddim trwy gomiti welwch chi."
Yr oedd un o eglwysi'r cylch mewn cryn derfysg, a phwyllgor wedi'i benodi i ofalu am yr Achos. Pregethai yno ar lywodraeth Duw—llywodraeth eang, fanwl, sicr. "Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu, &c.," meddai, "ac nid trwy gomiti, a rhyw hen lol felly."
Yn ei Gyfarfod Sefydlu fe rybuddiasid pobl Pall Mall rhag disgwyl i'r gweinidog "drotian" o dŷ i dŷ, megis postman, ac, yn wir, ni ddaeth i Ddavid Williams y demtasiwn honno am funud. Ond ymwelai yntau'n achlysurol, ac fel y byddai gofyn. Yn yr ymweliadau hyn gelwid arno'n fynych i fyned trwy rai o'r heolydd culion, drwg eu cyflwr, a gwrth—naws eu sawr a'u moes, a chai yno olwg echrydus ar ddau elyn: pechod yn ei drueni, a Phabyddiaeth yn ei ddylanwad ar y trueiniaid. Ni fentrodd fawr eriod i'r lleoedd diffaith hynny heb un o'r blaenor-