Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/45

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wyd heb deimlo bod David Williams, yn ei ddawn: digymar ei hun, yn ychwanegiad teilwng atynt.[1]

Yr oedd yn arfer gan Buleston ddywedyd "mai gwerth pregeth yn y pen draw ydyw ei gwerth i'r bobl sy'n ei gwrando... nid beth a gostiodd hi i'r pregethwr, ond beth a dâl hi i'r gwrandawyr." Ni fu cynulleidfaoedd Lerpwl yn fyr o brisio arlwy David Williams. Edrychent ymlaen am ei oedfa, cai gynulleidfa lawn, a chodai'r rhai swrth, hyd yn oed, i ddyfod i wrando arno ar fore Sul.

Yn o fuan wedi dyfod o'r gweinidog i'r Pall Mall, fe ddaeth y cwestiwn o symud ei phabell i flino'r eglwys, ac, wedi peth ymdrafod, fe werthwyd yr hen gapel i gwmni'r Relwe, fel y ceffid lle i helaethu Stesion Tithebarn Street. Aeth barn yr eglwys o blaid lle canolog yng Nghrosshall Street, ac yno y symudwyd yn y flwyddyn 1880. Yr oedd enw hen gapel Pall Mall yn gu iawn gan y to hwnnw o Fethodistiaid yn Lerpwl, ac ymglymodd serch llawer calon wrth y cysegr yno. Anodd yn sicr oedd i'r hen aelodau gefnu ar fangre'r saint, a'r hen deml y clywsid ynddi, trwy gydol y blynyddoedd, leisiau'r proffwydi mwyaf, a'r adeilad y profwyd pethau bendithiol rhwng ei fagwyrydd. Ond mudo a wnaed i le nad oedd nemor o'i blaid oddieithr ei safle ganolog yn y dref. Da oedd i'r gweinidog wrth gynhorthwy rhes o flaenoriaid gwych iawn, ac fe'i cafodd: W. Jones. (y blawd), R. Roberts, W. Thomas, John Evans. Wedi hynny fe ddaeth W. Jones (Prussia St.), R. O. Roberts, Hugh Williams; ac yn ddiweddarach

wedyn T. J. Williams, Robt. Thomas, David Davies.

  1. Y Parch. W. M. Jones.