Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

VI.

LERPWL.
1876-1894.

Dyma David Williams, ym mis Medi, 1876, yn dechrau ar ei waith yn Lerpwl, ac, ar gais y brodyr yn y Pall Mall, fe benodwyd ei gymydog Rees Jones i'w hebrwng yno. Ai i fam eglwys a'i hanes yn cerdded yn ol am dros gan mlynedd, ac eglwys a wrandawsai ar ddoniau gorau'r Weinidogaeth trwy gydol y blynyddoedd. Rhaid bellach ydoedd cerdded yn ôl traed dynion fel Henry Rees a John Hughes, y Mount. Yr oedd wedyn yn Lerpwl ar y pryd rai y gwneid cyfrif mawr ohonynt fel cedyrn y pulpud. Dyna'r Dr. John Hughes yn Fitzclarence Street ers yn agos i ugain mlynedd. Gwelsai'r Dr. Owen Thomas un mlynedd ar ddeg yn y ddinas, a'r Dr. Hugh Jones bum mlynedd yn Netherfield Road; ac yr oedd Richard Lumley yntau yn y cylch ers tua deng mlynedd. Fe ddaeth, wedi hynny, bregethwyr amlwg eraill i'r ddinas. Cyfnod oedd hwnnw pan. roddai pobl y pwys pennaf ar neges fawr y Pulpud yn hytrach nag ar gyflawni o'r gweinidog fân negeseuon y tu allan iddo.

Nid bychan oedd pryder y gweinidog newydd pan ddaeth yno i amcanu sefyll ochr yn ochr a'r gwyr a ystyrrid yn feistraid y gynulleidfa. Ond, er cael yno ddoniau mawr a doniau amrywiol, ni fu-