Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Penmorfa,— pentref nid anenwog ei hanes a'i draddodiadau. Dyma'r lle cyntaf yn Sir Gaernarfon i Howel Harris roi ei droed i lawr arno ar ol croesi'r Traeth Mawr o Feirion, y dydd diweddaf o Chwefrol, 1741. Penmorfa oedd pentref enwocaf Eifionydd yn y ddeunawfed ganrif. Nid oedd y fan y saif Porthmadog a Thremadog arni'n awr namyn traethell lom a orchuddid yn fynych gan lanw'r môr. A lle bach tlawd iawn oedd Cricieth, heb ynddo ond ychydig fwthynnod to gwellt a breswylid gan bysgodwyr hanner gwar. Saif Penmorfa ar lethr bryn of bobtu'r ffordd sy'n arwain o Dremadog i Benygroes a Chaernarfon. O'r tu cefn iddo cyfyd yr Alltwen yn syth fel rampart, a rhyngddo a'r môr y mae Moel y Gest. Awn am dro i fyny'r pentref, a chyfeiriwn i gymdogaeth Bethel. Ar y dde i ni, lle saif tŷ new ydd a shop yn awr, yr oedd yna dafarn unwaith—Y Ty Mawr, ac yno y ganwyd John Jones, Tremadog, yr hen weinidog enwog, ac un a fu'n Llywydd Cyfarfod Misol Sir Gaernarfon am lawer o flynyddoedd cyn ei rannu. Ychydig yn uwch i fyny ar y chwith y mae'r tŷ y bu ei gyd-frawd-yng-nghyfraith, Michael Roberts am ysbaid tua dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn cadw ysgol, a rhai o feibion mwyaf bonheddig Eifionydd yn ddisgyblion iddo. Oddi tanom, yn agos i Blas y Wern, y mae Cwt Defaid -man genedigol Edward Samuel (1674—1748), person Llangar. Efe oedd y nesaf at Elis Wyn mewn gallu llenyddol yn y Gogledd.[1] Dyma awdur "Bucheddau'r Apostolion a'r Efengylwyr." Cyfieithodd nifer o lyfrau crefyddol o'r Saesneg, ac yr oedd hefyd yn fardd o fri.

  1. Griffith Jones, Llanddowror, gan D. Ambrose Jones, td. 31.