Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Rhyw filltir yn uwch i fyny, wedi dringo'r holl ffordd, deuwn i gymdogaeth Bethel. Ar y chwith, rhyngom a Phentrefelin, y mae Cefnymeysydd Isa, cartref Elis Owen, hen lanc o lenor, bardd, ac athro. Gwnaeth ef fawr wasanaeth yn ei ddydd fel noddwr ac ysgrifennydd Cyfarfod Ysgolion Eifionydd. Hysbys i lawer yng Ngwynedd ydyw hanes Cymdeithas Lenyddol Cefnymeysydd, lle bu meithrin meibion ddaeth yn wyr amlwg mewn llên a chân, ac yn golofnau mewn byd ac eglwys.

Ar y dde, yn llechu yng nghysgod craig gwelwn. hen blasty, Y Gesail Gyfarch, a fu'n breswyl yn y dyddiau gynt i rai o deuluoedd mwyaf pendefigaidd Eifionydd. Merch y Gesail oedd mam y Dr. Humphrey Humphreys (1648-1712), Esgob Bangor a Henffordd, noddwr Elis Wyn, Edward Samuel, William Wynn, ac eraill. Hwyrach mai'r dyn mwyaf dylanwadol a blaenllaw yng Ngogledd Cymru yn nechrau'r ddeunawfed ganrif oedd Humphrey Humphreys. Yr oedd yn adnabyddus trwy Gymru a Lloegr, ac yr oedd yn fugail ffyddlon, yn arweinydd doeth, a Chymro trwyadl."[1]

Bu'r Esgob yn byw yn y Gesail Gyfarch am flynyddoedd, ac ym mynwent Penmorfa y claddwyd ei wraig.

Ychydig yn nes i'r Gogledd, heb inni symud cam, gallwn weled y Clenennau, ac nid oes enwocach tŷ yn Eifionydd na hwn. Dyma gartref Syr John Owen (1600-1666), arweinydd plaid y brenin Siarl I. yn

Sir Gaernarfon yn amser y Gwrthryfel Mawr. Enillodd y dyn bach gwrol ac ymladdgar amryw frwydrau dros y Brenin, ond fe'i gorchfygwyd yntau gan

  1. Griffith Jones, Llanddowror, td. 26, 27.