filwyr y Senedd ar y Dalar Hir rhwng Llandegai ac Aber, a chymerwyd ef yn garcharor. Er ei ddedfrydu i golli ei ben, rhywsut cafodd faddeuant a rhyddid, ac yn y Clenennau y bu farw.
Rhwng y Gesail a'r Clenennau y mae ffordd yn troi o'r briffordd, sydd yn ein harwain i gyfeiriad Cwmystrallyn. Wedi cerdded rhyw filltir ar hyd hon, deuwn i Ynys Pandy, cartref Gruffydd Shôn, yr hen bregethwr Methodist. Ato ef y daeth John Elias, yn llanc deunaw oed, i weithio'i grefft, ond a'i olwg yn fwy ar "yr alwedigaeth nefol" nag ar waith gwehydd. Dyma'r pryd y daeth yn aelod eglwysig, ac yma y dechreuodd bregethu. Ar lan yr afon o flaen y Clenennau y mae bwthyn bach sydd erbyn hyn yn prysur adfeilio. Ei enw yw Clwt y Ffelt, a dywedir mai yma y traddododd John Elias un o'i bregethau cyntaf. Ond anghofiasom yr Eglwys a mynwent y plwy, gorweddant o'r golwg mewn pantle dwfn ac unig, dan gysgod coed uchel, ac ni ellir eu canfod nes dyfod ohonom o fewn ychydig latheni iddynt. Yr oedd yr Eglwys a Thy'nllan unwaith ar y ffordd fawr rhwng Penmorfa a Phentrefelin. Y mae amryw sy'n fyw heddiw yn cofio Ty'nllan yn dafarn a brawd i Thomas Hughes, Machynlleth, yn byw yno. Treuliodd yr hen bregethwr enwog hefyd rannau o'i oes faith o dro i dro yn Nhy'nllan, ac yng nghwr y fynwent gerllaw y mae'n huno'i hun ddiweddaf. Yma hefyd gorwedd John Jones, Tremadog, a heb fod nepell oddiwrtho yntau y mae tŷ hir gartref Syr John Owen. Nid oes ond lled yr eglwys rhwng gorweddle'r hen bregethwr Methodist ag eiddo'r hen filwr brenhinol. Rhyfedd meddwl iddo, ar ol oes gyffrous a therfysglyd, ac