Fe fu Mr. W. T. Williams, yr Ysgolfeistr, yn gydymaith cu iddo yn ystod yr amser yr oedd ym Mhenmorfa, a chan fod yr hen frawd yn dra ofnus y nos, fe gymerid ei ofal ganddo ar nosweithiau tywyll. Nid profi'r ysbrydion a wneid ar y ffordd anghysbell, ond bod yn angel gwarcheidiol i'w cadw draw.
Yn ôl a ddywed Mr. William Parry, yr arweinydd canu, ni chanai David Williams fawr yn ystod yr oedfa, ond wedi'r bregeth ymollyngai fel llifeiriant a'i lais yn llenwi'r capel. Braidd na fyddai yn ffrwydro hyd at fynd a'r gân oddiar y codwr canu —ac, yn wir, yn amlach na pheidio, byddai'n tueddbennu at fynd allan o diwn yn yr hwyl.
Aeth, meddir, o Benmorfa i bregethu i Lerpwl, yn ol ei fynych arfer, a bu tro go ddigrif. Lletyai gyda chyfeillion caredig, ac nid oedd ond ychydig o gerdded o'r Stesion i'r tŷ. Mynnai mab y teulu mai ef oedd i fyned i gyfarfod y pregethwr i'r orsaf, a chydsyniodd y tad i hynny. Ond cyn cychwyn fe ofalodd y bachgen am chwilota am hen dop côt i'w dad, a sicrhau hen gap wedi gweld dyddiau gwell, a tharawodd hwy dan ei gesail i fyned i'r Stesion. Pan glybu swn y tren yn dod i mewn rhoes. y ddiwyg am dano. Yn y munud dyma'r pregethwr a'i ysgrepan trwy borth y Stesion, a'r dyn ieuanc yn moesymgrymu iddo yn ol arfer porter, "Carry your bag, Sir?" meddai. "No, No, thank you," atebai David Williams yn bur bendant. Ond dal i daergrefu a wnai'r "porter," gan gydgerdded â'r pregethwr, a hanner cymryd y bag o'i law, a'i sicrhau yr âi ag ef yn ddiogel i'w lety. Rhwng bodd ac anfodd, fe ollyngwyd y bag iddo, a chydgerddwyd