Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn ddigon del am ran o'r ffordd. Ond, a hwy yn myned heibio pen un heol go gul-dyma'r "porter yn cymryd y goes fel milgi a David Williams yn edrych yn ddifrifol arno ef a'r bag yn diflannu! Safai'n syn a hurt yr olwg arno yn ystyried y sefyllfa, ond "beth a wnai drwstan" ond myned ymlaen am y llety? Pan ddaeth i'r drws yn drwblus ei feddwl yr oedd yno wraig siriol yn ei gyfarch; ond buan y daeth allan hanes yr anffawd. "Welais i rioed y fath beth," meddai; "wn i ddim beth ddaeth drostai; mi rois fy mag i ryw lefnyn tua'r Stesion yna i'w gario, ac y mae'r creadur wedi dianc, a mynd a fo, a welai byth mono fo." "O," meddai'r wraig hynaws (weithian yn deall y tric), "peidiwch a phoeni, gewch chi weld y daw o i'r golwg." "Na ddaw wir, welwch chi, yr oedd golwg rêl lleidar arno fo," oedd yr ateb.

Yr oedd yn ŵr annwyl gan bobl Penmorfa, a phrisid ei wasanaeth yn fawr yn ystod y pedair blynedd y bu yno. Meddyliai yntau'r byd o rai o'r bobl.

Pan ddaeth ar ol hynny i angladd Edward Richard (am dano ef y dywedir iddo gael braw pan dde- allodd mai nofel oedd Rhys Lewis, a pheidio a derbyn y Drysorfa oherwydd hynny), tystiolaeth David Williams tan wylo am dano ef oedd "mi fuaswn yn byw efo fo fil o flynyddoedd heb ofni ei wg." Er ei fyned i'r wlad i fyw rhaid fyddai cael Davil Williams i lenwi pulpudau Lerpwl yn bur gyson, ac fe fyddai ei enw ymhlith pregethwyr y Sulgwyn yn un sefydlog. Y mae'n debyg mai'r tri mwyaf poblogaidd a welwyd yn y Seiat Fawr oedd Joseph Thomas, Evan Phillips, a David Williams. Bu'r ddau olaf gyda'i gilydd droeon. David Williams a osodid i siarad ar ol y siaradwr Saesneg yn gyff-