redin, ac fe ddechreuai à rhywbeth tebyg i hyn: "Wel, gyfeillion bach, mae'n dda gan ynghalon i'ch gweld chi unwaith eto yn y fan yma, ac rydwy'n meddwl fod yn dda gynoch chitha fy ngweld inna. Mae arnai hiraeth garw yn y wlad acw am danoch chi yn amal iawn—oes wir, gyfeillion bach." Dro arall wedi iddo fynegi ei chwithtod am ei hen gylch dywedai, "Wn i ddim wir i be'r eis i oddiyma erioed."
Dro arall dywedai, "Y mae rhyw hen adnod fach yn Llyfr y Diarhebion yn fy vexio i bron—' Gŵr yn ymdaith o'i le ei hun sydd debyg i aderyn yn cilio o'i nyth.' Bron nad wyf yn teimlo dipyn bach fel yna wedi dod yma brynhawn Gwener, ac y mae'n dda gennyf gael gweld yr hen nyth—hen nyth go lew hefyd, a phe buaswn i yn ieuengach, does dryst yn y byd na buaswn yn treio ail gyweirio fy nyth yn eich mysg. Welais i neb gwell na chi yn y wlad acw, os cystal. Wel, peidiwch chi, bobl y wlad, a dweud dim am yr os' yna. Does dim eisiau dweud dim o gyfarfod fel hwn 'rwan. Yr wyf yn sefyll ato—os cystal.'"
Cwynai unwaith oblegid ei drefnu i siarad tua diwedd y Seiat: "Yr wyf yn cael cam mawr gennych, hefyd, y naill dro ar ol y llall fel hyn, ddim yn rhoi lle imi ddweud gair nes mae fy mrodyr wedi dweud pob peth. Ond nid wyf yn un o bobl y mawr—gam, y byddai Richard Humphreys yn son am danynt. Mi geisia loffa tipyn, fel y darfu i Ruth ym meysydd Boaz. Fe gafodd gennad i loffa tipyn o'r tywysennau, a synnwn i ddim na ddarfu iddi gymryd ambell dywysen o'r ysgubau hefyd. Mi geisiaf innau loffa tipyn, a chwi faddeuwch imi am gipio ambell dywysen o'r ysgubau a gawsoch."