Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Fe ddaeth yno i siglo crud yr Achos, a theg ydyw dweud iddo roddi ei wasanaeth gwerthfawr yn gwbl ddi—dal trwy gydol y blynyddoedd.

Ymhen rhai blynyddoedd, y mae yn newid. ei annedd a symud i dŷ newydd gerllaw. Yr enw a ddyry ar y tŷ hwnnw ydyw "Y Bryniau —enw'i hen gartref yn Edern, ac un o'r geiriau cyntaf y buasai, pan oedd blentyn, yn ceisio'u hysgrifennu â'i law ei hun. Y mae am orffen ei rawd fel David Williams Y Bryniau," ac felly y gwnaeth. Pwy, ac efe wedi cerdded i gymdogaeth y pedwar ugain mlynedd, nad oes rhyw Fryniau maboed yn dyfod yn ol i'w brofiad?

Gŵr gwan ei nerfau ac ofnus ei deimlad ydoedd. ef bob amser. Fe'i blinid gan bethau go fach, ac fe wyddai'i wrandawyr cyson hynny'n eithaf da, oblegid byddai hyd yn oed agor ffenestr, neu godi blind weithiau, yn achlysur bwrw cerydd llym ar ben y blaenoriaid a eisteddai'n ddefosiynol odditano, a hwythau yn gwneud gwar i dderbyn y cwbl.

Ar fore Sul yn Nwyran, Môn, yr oedd o'i flaen nifer o enethod yn prysur ysgrifennu'r hyn a ddywedid. "Cadwch yr hen bapurach yna, da chi," meddai, "a gwrandewch yn reit lonydd," ac yna'n troi at y blaenoriaid, "doedd dim sens ynoch chitha yn rhoi rhyw griw fel hyn o flaen dyn yn y fan yma." Y nos Sadwrn cynt, deuai yn y cerbyd oddi wrth y Stemar bach, a digwyddai fod yno borchell bach ar ei daith o farchnad Caernarfon. Ymddengys bod y porchellyn hwnnw, nid yn unig yn deithiwr afreolaidd yn syniad David Williams, ond yn bur afreolus a mawr ei swn. Dealled y darllenydd mai mochyn o Sir Gaernarfon ydoedd, ac nid un o frodorion yr ynys. Fodd bynnag, i lawr o'r cerbyd yr aeth y