Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/62

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

pregethwr cyn gynted ag y safodd. Nid oedd yn dygymod â chwmni'r mochyn. "Ddoi ddim pellach efo'r gwr yma," meddai, gan roddi pwyslais braidd yn sgornllyd ar y gŵr yma." Cyn yr addawai fyned i'r lle hwnnw wedyn rhaid oedd rhoddi sicrwydd y caffai gerbyd heb fochyn y tro nesaf.

Yr oedd yn ddeddfol o fanwl, ac ni fedrai gadw'i ofal rhag mynd ohono'n bryder poenus iddo ef ei hun, ac yn rhywbeth digrif i eraill.

Noson bwysig oedd honno pan dorrid ei wallt, noson wedi'i threfnu trwy ymgynghoriad â'r brawd William Jones. Aiff y barbwr yno i'r funud erbyn saith o'r gloch, a chyn gynted ag yr â drwy'r drws gwêl fod yno baratoi a threfnu gofalus wedi bod. Y mae'r ystafell wedi'i thrawsnewid—aeth y bwrdd o ganol y llawr i'r gongl draw am holiday, a'r cadeiriau hwythau ar wasgar yn yr encilion. Wedi cymryd eu lle ar ganol y llawr y mae cadair freichiau braff, hyhi a'r meistr sydd i fod yn y canol heno. Yn o fuan, y mae David Williams yn "ymshapio," chwedl yntau, i ddyfod dan yr oruchwyliaeth. Eistedd i lawr yn Fethodistaidd, a rhy orchymyn i Martha Williams, ei chwaer, ddal y gannwyll y naill ochr, ac i Mary'r forwyn ddal un yr ochr arall, ac, wrth gwrs, yr oeddynt i fod yn reit lonydd, a dal yn ddigon uchel. Yn llaw'r gŵr biau'r gwallt y mae drych bychan fel y gallo wylio'r operation, a rhoi'r cyfarwyddiadau angenrheidiol wrth fyned ymlaen. Y mae pobl y canhwyllau yn sefyll mor llonydd a mud â delwau, ac y mae'r barbwr o'r tu ol yn dechrau clipian ei siswrn; ond rhaid iddo fod yn bwyllog ac edrych yn ystyriol, oblegid y mae'r drych yn y fan acw. Gwedi iddo dacluso'r gwegil, daw i'r brig, ac yn awr dyma orchymyn pendant gan y perchennog: