Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/7

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Rhagair

Ymhen ysbaid wedi marw David Williams gofynnodd y Parch. R. O. Williams, Penmaenmawr, imi edrych dros yr ysgrifau a'r Dyddiaduron a adawsid gan ei hybarch frawd, David Williams, a gweled a ellid gwneuthur rhyw ddefnydd ohonynt. Am y Dyddiaduron yr oedd eu moelni yn rhyfeddol. I bob golwg, fe ystyriai David Williams mai i'r Weinidogaeth yn unig yr oedd Dyddiadur wedi'i ordeinio. Cafwyd llawer mwy deunydd yn y pregethau, oblegid fe sgrifennai'r rheini yn dra gofalus. Syniad y Parch. R. O. Williams ydoedd yr atebai detholion o'i ddywediadau a'i ddisgrifiadau byw well diben na rhoddi i mewn nifer o bregethau cyfain, a diamau gennym ei fod yn iawn ar y pen hwn.

Byr fydd hyd yn oed y detholion mewn print o roddi syniad tebyg i gyflawn am hynodrwydd David Williams. Rhaid ydyw cael y dull ymadroddi yn gystal a'r deunydd. Gresyn o beth, a chennym ninnau wrth law ddyfeisiau'r blynyddoedd diweddaf hyn, fod cynifer o bregethwyr amlwg a'u llais wedi distewi heb fod ar gael yr un record gramoffon o'u