Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/8

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

traddodiad a'u dull o bregethu. Gallesid yn rhwydd fod wedi cael enghreifftiau o huawdledd y Doctoriaid John Williams, T. C. Williams, Puleston Jones, a'r Athro David Williams. Ond, hyd y gwyddom ni, nis cafwyd.

Yn y teitl fe gysylltir ag enw David Williams y gair sy'n cyfleu rhai o deithi amlwg ei gymeriad. Gwnaed hyn yn hytrach na'i gysylltu ag unrhyw le, oblegid fe ddug ef ei neilltuolrwydd gydag ef i bobman, o'r Bryniau yn Llŷn i'r Bryniau yn Llanwnda. Fel piwritan yr adwaenid ef. Yn ysgol y piwritaniaid y dysgodd ei wersi, hwynthwy a edmygai ac a ddarllenai, a'u delw hwy a gaed ar ei gymeriad a'i fuchedd grefyddol. Dygai ar gof gamp a gogoniant Dr. Owen, Calfin, Baxter, Howe, a Bunyan, wedi i bawb arall dewi a son am danynt.

Dyna'r cefndir; nid dyna'r peth er hynny a'i gwnaeth yn un cofiadwy i'w wrandawyr, ond y "rhywbeth arall" hwnnw a gyfodai o'i bersonoliaeth, ac a'i gosodai'n gwbl ar ei ben ei hun. Dymunaf gydnabod â chalon rwydd y cyfeillion caredig a'm cynorthwyodd, megis, y Parch. W. M. Jones, Llansantffraid; John Hughes, Edern; Morris Thomas, M.A., .Trefeglwys; Mr. W. B. Jones, Bradford; Mr. J. Griffith, Dwyran, a llawer un arall a roes imi ddameidiau llai. Derbyniais lawer o wybodaeth o gell cof y ddiweddar Mrs. Owen,