Gwirwyd y dudalen hon
Morfa Nefyn, ac yr oedd ysgrif y diweddar Barch. W. Prydderch Williams, Llundain, yn gymorth dirfawr.
Yr oedd ar gael rai ysgrifau wedi eu cyhoeddi, megis, eiddo'r diweddar Barch. O. J. Owen, M.A. (yn y Goleuad), y Parch. W. M. Jones (yn y Brython), Anthropos (yn Awel a Heulwen, a'r Llusern), a'r Parch. J. Owen, M.A. (yn y Drysorfa).
Gwneuthum ddefnydd o'r disgrifiadau gwych hyn, ond hyderaf na bu imi wrth loffa (chwedl David Williams) gymryd o'u hysgubau dywysennau braisg heb gydnabod ohonof hynny.
Cefais i bleser nid bychan wrth baratoi hyn o gyfrol, a'm dymuniad ydyw ar i bob un a'i darlleno dderbyn boddhad, budd, a bendith yn ei orchwyl yntau.
RICHARD THOMAS.