Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

lodging, ac yn ei gael mewn rhyw unigedd digalon. yn y fan honno. "Thomas annwyl," medda nhw wrtho y gair cyntaf, "Ni a welsom yr Arglwydd! Gwir bob gair ydyw bod yr Iesu yn fyw—piti mawr na buasit ti gyda ni. Buasai pob amheuaeth wedi'i chwalu am byth o'th feddwl dithau—Ni a welsom. yr Arglwydd.'" "Pw! Pw!! Pw!!," meddai yntau, "lol i gyd, ni chredaf fi. Clebar pobol ydi'r cwbl." Y mae'n sicr iddynt ddweud a dweud wrtho bob manylion y modd y dangosodd ei ddwylaw a'i ystlys, a cheisio'i argyhoeddi nad ysbryd a welsent.

Ond, dyma a gaent ganddo o hyd-"Ni chredaf fi." Dyma'r bobl oedd i fod yn dystion o'r adgyfodiad—ond "ni chredaf fi." Nid amau geirwiredd ei frodyr yr oedd Thomas, ond teimlo yn ddiamheuol mai wedi eu twyllo yr oeddynt—iddynt mewn rhyw gyffro a dyryswch meddwl gael rhyw weledigaeth ryfedd. "Oni chaf weled yn ei ddwylaw ef öl yr hoelion." Diar annwyl! yr ydym fel yn brawychu wrth y geiriau. Clywch eto; a dodi fy mys yn ôl yr hoelion."

Yr oedd y disgyblion wedi dyfod at ei gilydd bob dydd, ond methu a chael Thomas gyda hwynt—ond, wedi wyth niwrnod drachefn, "yr oedd ei ddisgyblion ef i mewn a Thomas gyda hwynt." Gwych iawn oedd ei weld, beth a'i dygodd yno? Ni wyddom yr ingoedd meddwl yr aethai drwyddynt.

Yr oedd yn dda gan eu calon ei weld o. Dyma fo yn eistedd yn ymyl y drws, a golwg bruddaidd a digalon arno, yn methu edrych yn wyneb ei frodyr, yn rhyw benisel, ac isel ei feddwl, a llwydaidd ei wedd, heb na bwyta na chysgu yng nghadwynau anghrediniaeth greulon. Ond yr oedd o yno—"yr oedd ei ddisgyblion ef i mewn a Thomas gyda hwynt."