Nid ydyw, meddai'r Parch. W. M. Jones, yn ben crefftwr ar roddi bloedd megis llawer o'i gydoeswyr. Y mae'r hanner cyntaf yn dda odiaeth, ond tuedd y rhan olaf yw myned allan o diwn. Ond bydd pawb yn ei mwynhau, ac, yn wir, oblegid mai rhyw gynhyrfiad ydyw y mae'n ysgwyd cynulleidfa. Clywch ef ar fore Sul tawel a hafaidd mewn capel ar finion Menai yn disgrifio Thomas, yr anghredadun, a chyrchu'r floedd nes gyrru dynion i ryw deimlad hanner llesmeiriol.
"Treialon arswydus a dychrynllyd iawn oedd helynt y croeshoeliad, yn enwedig i ddyn fel Thomas, oedd o ryw feddylfryd mor bruddglwyfus, ac un oedd mor angherddol yn ei ymlyniad wrth yr Iesu. Ni fuasai'n rhyfedd iawn pe buasai wedi colli'i synhwyrau yn y dymhestl fawr hon. Am y chwedlau a daenid y dydd cyntaf o'r wythnos am adgyfodiad yr Iesu, nid oeddynt ond fel gwegi yng ngolwg y disgyblion eraill, ac y mae'n sicr i chi nad oeddynt ond fel gwagedd o wagedd," lawer gwaith drosodd, yngolwg dyn o dueddfryd y disgybl hwn.
Gwrthododd fyned i gyfarfod o'r disgyblion y dydd cyntaf hwnnw o'r wythnos. Gwell ganddo oedd bod ar ei ben ei hun i wrando ar ei feddyliau digalon ac anghrediniol. "Eithr Thomas nid oedd gyda hwynt pan ddaeth yr Iesu." Y fath golled! Ni chymerasai'r byd, na mil o fydoedd, am fod yn absennol. pe credasai fod yr Iesu'n fyw ac y cawsai'i frodyr ei weled yn y cynhulliad.
Wedi'r seiat honno, y disgyblion eraill gan hynny a ddywedasant wrtho, "Ni a welsom yr Arglwydd." Y mae rhai ohonynt yn rhedeg ar ol y cyfarfodganol nos erbyn hynny—a chwilio am Thomas yn ei