Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

II.

YN Y SEIAT.

"Lle ydyw'r seiat i'r saint gael ei gilydd yng Nghrist a chael Crist yn ei gilydd." Dyna ddywediad cryno David Williams am gymdeithas y saint, ac y mae'n ddigon cynhwysfawr i agor llwybr Araith ar Natur Eglwys.

Y mae'n debyg y gellir meddwl am un yn meddu ar ddawn pregethu, a honno'n ddawn arbennig hefyd, heb ynddo ragoriaeth amlwg mewn cadw seiat.' Y peth hawddaf yn y byd ydyw i seiat fyned dan ein dwylo yn rhywbeth heblaw seiat. Yr oedd yn Navid Williams deithi, fel dyn a phregethwr, a'i gwnai hi'n rhwydd iawn iddo ragori yn y cylch hwn. Fel dyn, yr oedd yn naturiol a syml, yn dyner a charedig, yn gartrefol a chyfeillgar i'r pen. Meddylier, wedyn, am ei brofiad ysbrydol dwfn o bethau'r Efengyl, ei feithriniad o'i grefydd bersonol, a'i wybodaeth gyflawn a difêth o'r Beibl. Nid oedd yr un adnod yn newydd iddo ef, heblaw bod pob adnod yn newydd pan ddelo o enau sant. Yr oedd yn arfer ganddo, pan gaffai un go doreithiog, alw'i chwiorydd ati o bob rhan o'r Beibl, ac ni fyddai gorffen heb wahodd Pantycelyn, neu arall, i yrru'r hoel adref. Oedd, yr oedd David Williams yn fawr yn y seiat.[1] Prin yr oedd yn fwy yn unman.

  1. Y Parch. John Owen, M.A.