Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/77

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Wedi i frawd ddechrau'r gwasanaeth, fe gyfyd y gweinidog ar ei draed yn hamddenol a gwrando ar y plant yn dweud eu hadnodau. Gwelir yn ebrwydd nad ydyw'n medru disgyn yn naturiol iawn i fyd y plentyn. Ei duedd ydyw bod yn fanwl, a phrin ydyw ei gydymdeimlad a'r ynni a'r ymsymud hwnnw sydd naturiol i blentyn iach. Yr oedd eistedd yn berffaith lonydd heb symud dim" yn un o'r rhinweddau mawr. Na feddylied neb, er hynny, nad oedd yn ffrind i'r plant, a'r plant yn hoff iawn ohono yntau. Caffai rhai ohonynt sylw arbennig a chyfeillgar, yn enwedig pan welai'r proffwyd arwyddion cynnar o sens ynddynt. Ond llawn cystal ganddynt. hwy oedd ei gyfarfod y tu allan i'r seiat.

Gwelwn ef bellach yn ymlwybro'n araf i'r llawr at ei frodyr a'i chwiorydd a ddeallai'n well. Onid oes rhyw serchogrwydd yn ei gyfarch cyntaf? Siervd megis tad yng nghanol ei blant. Tery ei law ddehau yn gynnil ar ei ên pan ddyneso atynt, a dywed,— "Dowch wir, gyfeillion bach, be sy gynnoch chi heno?" Disgyn ei lygaid yn awr ar Owen Griffith. Gwyliwr porth un o'r dociau ydyw ef, ac wedi bod yn wael am wythnosau rai. "Wel, Owen Griffith, be sy gynnoch chi i ddweud wrthon ni? Mae'n dda gin yn clonna ni'ch gweld chi," meddai David Williams. "Wel," ebr y brawd. "yn fy ngweld fy hun yr oeddwn i yn debyg iawn i'r llongau fyddai'n weld yn dod i'r graving dock acw. Y mae nhw'n dod acw i gael eu hofarholio, welwch chi, yrwan ac yn y man. Mae nhw'n edrach ydi'r boilars a'r injans yn olreit i wynebu'r môr mawr: ac yr oeddwn i'n meddwl mai rhywbeth tebyg oedd fy hanes inna—yn y graving dock—am chwech wythnos." Y mae'r gymhariaeth wrth fodd David Williams. "Sut y doth hi arnoch