chi?" gofynnai. Wel, mi ddoth yn llawer gwell nag yr oeddwn i'n ofni. Mi glywais lawer o swn y morthwylion yn disgyn-llawer pryder, ofn, ac amheuaeth, ac, yn wir, ambell adnod yn disgyn fel gordd, welwch chi." "Diar mi, oedd hi felly, oedd hi?" gofynnai drachefn. Oedd, oedd, ond mi gefais fod y boilers heb grac ynddyn nhw," oedd yr ateb. Felly yr â'r ymddiddan ymlaen ac Owen Griffith yn gorffen trwy ddweud mai'r un piau'r môr a'i lestr bach yntau, a'i fod am ei fentro.
Ac," meddai, " er gwaethaf grym y tonnau
Sydd yn curo o bob tu,
Dof drwy'r gwyntoedd, dof drwy'r stormydd,
Rywbryd i'r baradwys fry."
Dyma John Hughes yn nesaf yn cyfarfod llygad y gweinidog. Gŵr a ddisgyblwyd yn ddiweddar ydyw hwn, ac y mae newydd ddechrau ymadfer o'r oruchwyliaeth. Son y mae ef am y gras o edifeirwch fel peth gwerthfawr iawn. "Ia, Ia," meddai David Williams, does dim ffordd arall yn ôl ai oes? Deudwch i mi ai edifeirwch am ryw bechod neilltuol ydach chi'n feddwl, John Hughes?" "Ia siwr," meddai'r brawd. "Ac yr ydach chi'n teimlo ych bod chi'n o berffaith felly wedi cael clirio hwnnw?"-a dyma John Hughes yn y gongl yn daclus. Gwelodd yr hen broffwyd mai parchusrwydd wedi'i glwyfo oedd yn blino'r dyn, a dim dros ben hynny. Yna dywedodd yn ddifrif-dyner am ddrwg calon bechadurus a chwerwder gwir edifeirwch. Math o operation oedd hon, ac yr oedd ei air fel cleddyf llym dau finiog.
Dyma fachgen ieuanc o'r wlad, John Williams. Dechrau son wrtho am ddarllen y Beibl ac arfer y