Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Clywodd y wraig o Ganaan fod yr Iesu yn y gyindogaeth. Yr oedd y son yn dew. Fe aeth y bobl hynny sydd yn gwybod hanes pawb ati i ddweud."

"Am y Gamaliel yma, beth bynnag oedd ei gym— hellion y mae'n ddyn call, ac yn siarad sens; ac y mae hynny'n llawer o beth mewn byd lle mae cym— aint o ffyliaid yn siarad nonsens."

Mewn cyfarfod pregethu ym Mhenygroes soniodd y Parch. Griffith Ellis, M.A., fwy nag unwaith am gymeriadau Corris. Pan aed i dy'r Dr. Roberts dyma stori arall am un o'r Corrisiaid. "Diar mi," meddai David Williams, Mr. Ellis bach, yr oedd gynoch chi rhyw griw ofnadwy o ryw betha tua Chorris yna ddyliwn i," gan awgrymu—

Tro doniol oedd hwnnw yn Ll—— rhyw brynhawn trymaidd yn yr haf a David Williams yn pregethu. Yn union o'i flaen yr oedd dyn wedi gosod ei gefn yn erbyn congl y sèt. Dechreuodd ei lygaid. drymhau, ac yn o fuan dacw'i ben ar ei wegil. Aeth pethau o ddrwg i waeth, ac yn ebrwydd yr oedd golwg aruthr arno yn cysgu, ac yn agor ei geg tua'r ceiling yn yr ystum hwnnw. Gwelid bod llygad y pregethwr yn anelu ato ers meityn. "Welwch chi," meddai yn swta, "wnewch chi ddeud wrth y dyn yna (gan bwyntio ato), os ydi o am gysgu, iddo gysgu'n ddel, 'run fath a'r dyn acw (gan gyf— eirio at gysgadur arall). Arhosai unwaith yn Nhy Capel D—— Cwynai'r hen ŵr, ei letywr, oherwydd y crydcymalau tost