Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a'i blinai—llefarai'n ddibaid. Yr oedd David Williams yn lled bryderus am ei bregeth, ac yn bur ddisiarad; ond yr oedd tafod yr hen ŵr yn dal i symud heb arwydd o anhwyldeb rhiwmatics. "Dowch wir, Mr. Williams," meddai ar ganol y cwyno, "helpwch ych hun efo rhai o'r cream crackers yma." Yr ateb oedd, "Na, wir, frawd bach, cymerwch chi nhw'n ddistaw. Y mae nhw'n bethau campus at y crydcymalau."

Yr oedd yng nghapel Holt Road ar nos Sul, ac, yn y Seiat fe wrandawai ar y plant yn dweud eu hadnodau. "Wel, 'rwan, deudwch chi, ngeneth i," meddai wrth y gyntaf. "Ac Abraham a genhedlodd Isaac, ac Isaac a genhedlodd Jacob," &c., meddai'r eneth. Gwedi iddi orffen rhoes air llym i'r rhieni ar iddynt ddysgu adnodau cymwys i'r plant—adnodau "a dipyn o efengyl ynddynt." "Deudwch chi. ngeneth i," meddai wrth un arall. "A'r trydydd dydd yr oedd priodas yn Cana Galilea," meddai honno. "Wel wir, 'does yna fawr o efengyl yn hona chwaith," meddai David Williams.

Aeth i bregethu i eglwys yr oedd yn dra chyfarwydd â hi, ac a hwy yn dyfod adref o'r capel fore Sul, meddai'i letywr wrtho, "Y mae John Williams wedi'i ddewis yn flaenor yma." "Da iawn wir," atebai David Williams, "welis i mono fo yn y sêt fawr, ai do?" "Na," meddai'r cyfaill, "y mae o dipyn yn shy i ddod i'r sêt fawr, welwch chi." "Nenor diar," ebr yntau, "be stydi'r dyn yn gwastraffu gostyngeiddrwydd a hwnnw'n beth mor brin."

Ymddiddanai a brodyr a dderbynnid yn flaenoriaid yn y Cyfarfod Misol. Ofnai un brawd y beirn-