Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/89

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PECHOD YN HURTIO.—Y mae dyn wedi ei hurtio'n rhyfedd trwy bechod ynghanol ein prysurdeb ffwd— anus yn y byd yma, ac nid ydym yn rhoddi ystyriaeth briodol i'n marwoldeb na'n hanfarwoldeb.

DIOLCHGARWCH.—Y mae'r hen Ddoctor Owen yn gwneud sylw fel hyn: "Am y rhannau o'r ddaear lle nad oes tarth yn esgyn i fyny nid oes dim cawodydd yn disgyn i lawr." Rhaid i arogldarth diolchgarwch esgyn i gael y glaw graslawn i lawr.

SAETH WEDDI.—Nid ydi'n dda gan y diafol mo'r saeth weddiau yma, y mae nhw'n rhy chwim iddo. Y mae'r weddi yma yn hedeg fel mellten heibio i dywysog llywodraeth yr awyr, ac fe fydd wedi cyrraedd y drydedd Nef, welwch chi, ac wedi gwneud ei busnes cyn iddo gael amser i droi.

MÔR DUW.—"Y mor sydd eiddo"—y môr mawr llydan. 'Does neb o'r dynion mwyaf trachwantus wedi dwyn ystadiau o hwn, welwch chi, na gosod terfynau iddo. 'Does dim rhent na degwm ar hwn yr Anfeidrol pia fo yn i grynswth mawr.

MEIBION Y DARAN.—Y maent yn dod at yr Iesu yn gyffrous ac yn dymuno cael galw am "dân o'r nefoedd a'u difa hwynt." "Eu difa"—nid "eu dychrynu," ydach chi'n gweld, eu difa. Yr oedd meibion y daran yma am fod yn feibion y fellten. hefyd, a gwneud y lle ar unwaith fel Sodom a Gomora.

BUSNES A PHLESER. "Busnes yn gyntaf, a phleser wedyn." Y mae pawb yn teimlo eu bod yn siarad yn gall wrth ddweud fel yna——Busnes yn gyn-